HANNA
1 Samuel 2: 1-10
Gwelsom y peth o’r blaen ... diflastod rhwng Sarai a Hagar. Y tro hwn, Peninna, mam Elcana’r Effraimiad sydd byth a hefyd yn gwawdio Hanna. ’Roedd Hanna heb blant. Eto, daeth dydd pan anwyd mab i Hanna. Chwerthin gwnaeth Sara, canu mae Hanna, nerth ei llais - cân o orfoledd a diolchgarwch, bwrlwm o fawl. Hanna’n canmol Duw am ei drugaredd, Duw sy’n troi’r byd â’i ben i waered, Duw'r chwyldroadau mawr.
Pa ots prun ai Hanna ei hun a gyfansoddodd y geiriau neu rywun arall, ymhen blynyddoedd, a osododd y geiriau yn ei genau. Mae’r gwirionedd sydd yn y gân wedi aros drwy’r oesau, hyd ein dydd ni.
Do, gwrandawyd ei chwyn, atebwyd ei gweddi, a chyflawnodd hithau ei haddewid. Gyda Samuel yn ddigon hen i fwydo a gwisgo’i hun, aeth Hanna â’r un bach i Seilo at Eli a’i fenthyg i Dduw.
Arferai Hanna o flwyddyn i flwyddyn fynd i weld Samuel. Byddai’n mynd â chot newydd hardd iddo bob tro, bob un fymryn yn fwy na’r olaf. Ychydig a wyddom amdani ar ôl hyn, dim byd mwy nag iddi ddychwelyd gyda Elcana i’w chartref a bod iddynt dri o feibion a dwy o ferched.
- Briw a chur, gwobr ei chariad meddai J.H.Roberts am Mair, mam Iesu; trafoder hyn yng nghyd-destun bywyd a phrofiad Hanna.
- Cymharer gân Hanna ag Emyn Mawl Mair (Luc 1: 46-55).