‘O DEUWN OLL YNGHYD …’

Tra ein bod wrthi yn sicrhau trefniadau i fedru ail-ddechrau cyfarfod i addoli fel cynulleidfa yng nghapel Minny Street, yn unol â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru a chyrff crefyddol, parheir gyda’r trefniant sydd yn ein galluogi, am 10:30 bob bore Sul, i “gyd-addoli” yn ein cartrefi drwy gyfrwng y taflenni a baratowyd gan ein Gweinidog. 

Yn y cyfamser, parheir hefyd i agor y capel ar gyfer gweddi bersonol o fewn amser penodol ar fore Sul yn unol â’r wybodaeth mewn taflen a ddosbarthwyd i’r aelodau. 

I’r rheini sydd â chyfrif trydar, fe’ch atgoffir bod yna faeth ysgrythurol ac ysbrydol, ynghyd ag ambell gamp ddeallusol, yn cael eu huwchlwytho i @minnystreet.

RHYWBETH I WNEUD … O’R IEUENGAF I’R HYNAF

Dyma’r olaf am y tro!

Hawdd ac anodd!

Bord Gron oedd yn fy nghastell,

O’i gylch marchogion doeth;

Fe’m cludwyd i Afallon

Mewn llong euraid goeth.

Troediais hyd Fferm yr Ysgwrn –

Ffon fugail yn fy llaw;

Cenais ger afon Prysor

Yng ngolau’r lleuad draw.

Gan gymaint ydoedd f’awydd

am ddarllen geiriau’r Nef,

Mi es ar daith hirfaith

Ar droed i Fala dref.

Dyma’r ‘anodd’:

Mae’r cyntaf mewn EWYN, er nad yw mewn TON.

A’r ail sydd yn HWN, er nad yw yn HON.

Mae’r trydydd mewn LLYN heb fod mewn un NANT.

A’r nesa’ mewn ILLTYD, ond nid yw mewn SANT.

Mae’r pumed mewn TELYN er nad yw mewn CRWTH.

A’r chweched mewn GLODDEST, ond nid yw mewn GLWTH.

Mae’r seithfed mewn ADAR ond nid yw mewn NYTH.

A’r olaf mewn CRWCA er nad yw mewn SYTH.

Y cyfan yn rhywbeth sy’n dda i’r byd i gyd.

Dylai pawb ei arfer a’i ymarfer o hyd.

‘O DEUWN OLL YNGHYD …’

Yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru parhawn i hepgor pob oedfa a chyfarfod yng nghapel Minny Street. Parheir gyda’r trefniadau sydd yn ein galluogi, am 10:30 bob bore Sul, i “gyd-addoli” yn ein cartrefi drwy gyfrwng y taflenni a baratowyd gan ein Gweinidog. 

Yn sgil y newidiadau i’r cyfyngiadau, o 5ed Gorffennaf  ymlaen manteisir ar yr hawl i addoldai agor ar gyfer gweddi bersonol o fewn amser penodol ar fore Sul. Gwneir hyn yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a chyrff crefyddol. Eisoes dosbarthwyd taflen wybodaeth i aelodau er mwyn sicrhau ein bod yn dilyn Rheoliadau’r Llywodraeth.

I’r rheini sydd â chyfrif trydar, fe’ch hatgoffir bod yna faeth ysgrythurol ac ysbrydol, ynghyd ag ambell gamp ddeallusol, yn cael eu huwchlwytho i @minnystreet.

‘LLYNYDDWCH’: LLYTHYR PAUL AT Y PHILIPIAID

Philipiaid 4:2-9

Mae Paul, yma’n troi at faterion a godwyd gan y Philipiaid mewn llythyr a anfonasant ato. Apêl am ffyddlondeb ac undeb yw’r ychydig adnodau hyn. Mae’n amlwg fod Euodia a Syntyche wedi cael achos i anghydweld â’i gilydd. Epaffroditus yw’r un sydd wedi dwyn yr holl beth i sylw Paul. Mae rhai ysgolheigion yn amau ai pobl ydynt o gwbl, ond yn hytrach mae symbolau ydynt o’r agweddau Iddewig a Groegaidd at Gristnogaeth, ac mai ceisio pwysleisio mae Paul, er y gwahaniaethau i gyd, a’r anghydweld, fod y ddwy agwedd yn ennill eu lle fel rhai sy’n cydweithio ag ef yn y gwaith o ennill y byd i gyd i Grist.

Mae’n anodd gan ysgolheigion eraill i dderbyn hyn, gan fod Paul bob amser yn sgrifennu yn glir a diamwys. Dyw e ddim yn arfer defnyddio darluniau wrth siarad am y ddwy agwedd. Na, pobl go iawn yw Euodia a Syntyche am wn i. Mae’n rhaid bod y cweryl wedi dylanwadu’n fawr ar yr eglwys yn Philipi, ac, er na wyddom yn glir natur y cweryl, mae Paul yn penodi un y mae’n ymddiried ynddo gant y cant i fod yn gymodwr rhwng y ddwy. Nid yw Paul; yn deall y cweryl rhyngddynt. Dyma ddwy yn yr un gwaith, yn ddwy yn yr un eglwys ac yn ceisio dilyn yr un Crist yn ymgecru â’i gilydd. Beth yn y byd sy’n bod arnyn  nhw? Mae’r ffaith eu bod nhw’n bobl flaenllaw yn yr eglwys yn gwneud y drafferth yn waeth ac mae’r cyfan oll yn effeithio ar dystiolaeth yr eglwys. Dyna yn anad dim sy’n poeni Paul; mae am ddiogelu effeithiolrwydd yr eglwys. Mae e’n benderfynol o beidio gwneud cam ag un neu’r llall wrth dawelu’r drafferth sydd rhyngddynt. Mae’r ddwy’n bwysig, mae angen yn ddwy arno.

Mae Paul yn deall y ddwy. Cyn iddynt droi at Grist, bu’r gwragedd hyn yn addoli gwahanol dduwiesau Groegaidd, a phob duwies â’i phwyslais gwahanol. Nid hanfodion y ffydd oedd yn eu gwahanu, meddai Paul wrthynt, ond agweddau a theimladau a chefndiroedd gwahanol. Pwyslais Paul yw bod Euodia a Syntyche ar yr un tîm. Mae enwau’r ddwy, gyda phobl eraill fel Clement, yn llyfr y bywyd (4:3).

I ysgogi myfyrdod pellach:

Ystyriwch weddi Effraim y Syriad (tua 306-73 O.C.): Rhoddaist dawelwch i’r rhai a fu mewn terfysg. Mawl i’th lonyddwch! O! Arglwydd, tawela dy eglwysi; cyplysa ac una, O! Arglwydd, y sectau cynhennus a llonydda a llywodraetha’r pleidiau gwrthwynebus; a bydded bob amser un wir Eglwys, a’i phlant cyfiawn yn ymgynnull i adnabod dy raslonrwydd. Mawl i’th gymod, O! Arglwydd Dduw.

Beth yw tangnefedd, adnod 7? A Pha fodd y profwch ei fod uwchlaw deall? Pam y gelwir ef yn dangnefedd Duw? A beth yw ei ddylanwad ar bobl?

‘O DEUWN OLL YNGHYD …’

Yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru parhawn i hepgor pob oedfa a chyfarfod yng nghapel Minny Street. Parheir gyda’r trefniadau sydd yn ein galluogi, am 10:30 bob bore Sul, i “gyd-addoli” yn ein cartrefi drwy gyfrwng y taflenni a baratowyd gan ein Gweinidog. 

Yn sgil y newidiadau i’r cyfyngiadau, o 5ed Gorffennaf  ymlaen manteisir ar yr hawl i addoldai agor ar gyfer gweddi bersonol o fewn amser penodol ar fore Sul. Gwneir hyn yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a chyrff crefyddol. Eisoes dosbarthwyd taflen wybodaeth i aelodau er mwyn sicrhau ein bod yn dilyn Rheoliadau’r Llywodraeth. 

I’r rheini sydd â chyfrif trydar, fe’ch hatgoffir bod yna faeth ysgrythurol ac ysbrydol, ynghyd ag ambell gamp ddeallusol, yn cael eu huwchlwytho i @minnystreet.