‘LLYNYDDWCH’: LLYTHYR PAUL AT Y PHILIPIAID

Philipiaid 4:2-9

Mae Paul, yma’n troi at faterion a godwyd gan y Philipiaid mewn llythyr a anfonasant ato. Apêl am ffyddlondeb ac undeb yw’r ychydig adnodau hyn. Mae’n amlwg fod Euodia a Syntyche wedi cael achos i anghydweld â’i gilydd. Epaffroditus yw’r un sydd wedi dwyn yr holl beth i sylw Paul. Mae rhai ysgolheigion yn amau ai pobl ydynt o gwbl, ond yn hytrach mae symbolau ydynt o’r agweddau Iddewig a Groegaidd at Gristnogaeth, ac mai ceisio pwysleisio mae Paul, er y gwahaniaethau i gyd, a’r anghydweld, fod y ddwy agwedd yn ennill eu lle fel rhai sy’n cydweithio ag ef yn y gwaith o ennill y byd i gyd i Grist.

Mae’n anodd gan ysgolheigion eraill i dderbyn hyn, gan fod Paul bob amser yn sgrifennu yn glir a diamwys. Dyw e ddim yn arfer defnyddio darluniau wrth siarad am y ddwy agwedd. Na, pobl go iawn yw Euodia a Syntyche am wn i. Mae’n rhaid bod y cweryl wedi dylanwadu’n fawr ar yr eglwys yn Philipi, ac, er na wyddom yn glir natur y cweryl, mae Paul yn penodi un y mae’n ymddiried ynddo gant y cant i fod yn gymodwr rhwng y ddwy. Nid yw Paul; yn deall y cweryl rhyngddynt. Dyma ddwy yn yr un gwaith, yn ddwy yn yr un eglwys ac yn ceisio dilyn yr un Crist yn ymgecru â’i gilydd. Beth yn y byd sy’n bod arnyn  nhw? Mae’r ffaith eu bod nhw’n bobl flaenllaw yn yr eglwys yn gwneud y drafferth yn waeth ac mae’r cyfan oll yn effeithio ar dystiolaeth yr eglwys. Dyna yn anad dim sy’n poeni Paul; mae am ddiogelu effeithiolrwydd yr eglwys. Mae e’n benderfynol o beidio gwneud cam ag un neu’r llall wrth dawelu’r drafferth sydd rhyngddynt. Mae’r ddwy’n bwysig, mae angen yn ddwy arno.

Mae Paul yn deall y ddwy. Cyn iddynt droi at Grist, bu’r gwragedd hyn yn addoli gwahanol dduwiesau Groegaidd, a phob duwies â’i phwyslais gwahanol. Nid hanfodion y ffydd oedd yn eu gwahanu, meddai Paul wrthynt, ond agweddau a theimladau a chefndiroedd gwahanol. Pwyslais Paul yw bod Euodia a Syntyche ar yr un tîm. Mae enwau’r ddwy, gyda phobl eraill fel Clement, yn llyfr y bywyd (4:3).

I ysgogi myfyrdod pellach:

Ystyriwch weddi Effraim y Syriad (tua 306-73 O.C.): Rhoddaist dawelwch i’r rhai a fu mewn terfysg. Mawl i’th lonyddwch! O! Arglwydd, tawela dy eglwysi; cyplysa ac una, O! Arglwydd, y sectau cynhennus a llonydda a llywodraetha’r pleidiau gwrthwynebus; a bydded bob amser un wir Eglwys, a’i phlant cyfiawn yn ymgynnull i adnabod dy raslonrwydd. Mawl i’th gymod, O! Arglwydd Dduw.

Beth yw tangnefedd, adnod 7? A Pha fodd y profwch ei fod uwchlaw deall? Pam y gelwir ef yn dangnefedd Duw? A beth yw ei ddylanwad ar bobl?