Yr oeddent yn dyfalbarhau yn nysgeidiaeth yr apostolion ac yn y gymdeithas, yn y torri bara ac yn y gweddïau. Yr oedd ofn ar bob enaid; yr oedd rhyfeddodau ac arwyddion lawer yn cael eu gwneud drwy’r apostolion. Yr oedd yr holl gredinwyr ynghyd yn dal pob peth yn gyffredin. Byddant yn gwerthu eu heiddo a’u meddiannau, a’u rhannu rhwng pawb yn ôl fel y byddai angen pob un. A chan ddyfalbarhau beunydd un unfryd yn y deml, a thorri bara yn eu tai, yr oeddent yn cydgyfranogi o’r lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon...(Actau 2:43-47)
Rhannu. Rhannu eiddo; rhannu adnoddau, rhannu angen; rhannu gofid; rhannu ofnau, rhannu addoliad; rhannu undod; rhannu unfrydedd; rhannu’r deml; rhannu bara; rhannu tai; rhannu prydau bwyd; rhannu lluniaeth; rhannu llawenydd; rhannu symledd calon; rhannu bendith Duw; rhannu ewyllys da; rhannu cynnydd; rhannu...
Heddiw, World Food Day, mynnwn egwyl dawel i gofio bod ein ffyniant ni wedi ei blethu â ffyniant ein brodyr a chwiorydd drwy’r byd. Mae a fynno bwyd â phopeth bywyd - gofal Duw a gwaith pobl. Wrth ystyried bwyd anodd, os nad amhosibl yw tynnu llinell bendant rhwng yr ysbrydol a’r materol. Bwyd i mi fy hun - problem faterol yw honno; bwyd i’m brodyr a chwiorydd ymhell ac agos - problem ysbrydol yw honno. Geilw’r broblem ysbrydol hon am ymateb cwbl a chyson ymarferol.
Mae’n arwyddocaol y gall Paul arfer y gair ‘Koinônia’ nid yn unig am berthynas y credadun â’i Arglwydd yn y Cymun Sanctaidd, ond hefyd am ‘gasgliad’ eglwysi Macedonia er budd y tlodion. Ni elli fod ‘ar y cyd’ â’r Croeshoeliedig heb fod ‘ar y cyd’ â’r anghenus.
Isaac Thomas (1911-2004) Trosom Ni; Tŷ John Penry, 1991
O! Dduw, i’r rhai sy’n newynu rho fara, ac i ni sydd â bara rho newyn am gyfiawnder. Amen.
Cyngor Eglwysi’r Byd (Mil a Mwy o Weddïau; gol. Edwin C.Lewis; CG, 2010)