Mae’n ddihareb - os nad wir yn ystrydeb - ym myd busnes: There’s no "I" in "team".
Mae'r datganiad yn ddigon gwir wrth gwrs, pe bawn yn meddwl dim ond am lythrennau a geiriau. Ond, wrth ystyried neges y datganiad, onid oes yn rhaid cydnabod mai anodd yw cael tîm heb yr unigolion sydd yn perthyn iddo. Heb bob FI a oes NI?
Ar y naill law, fe all y FI ddiflannu ym mhlygion y NI. Gwyddom fod nifer o aelodau eglwys yn hapus ddigon i ddiflannu i’r NI. Ar y llaw arall, fe all y NI cael ei lethu gan hunanbwysigrwydd ambell FI fawr. Gall ambell Lone Ranger greu lletchwithdod i’r eglwys gyfan.
Yr ateb yw cadw FI a NI mewn tensiwn creadigol. Gweithiwn orau pan wêl pob FI yn yr eglwys fod ganddo/ganddi gyfraniad i’r eglwys gyfan: NI; a bod gennym NI, yr eglwys, rywbeth i’w roi i bob FI. Pob FI a’i le, a’i lais, a’i waith, a hynny er lles y NI.
Weithiau mae’n rhaid i’r FI ildio i ewyllys y NI, a'r adegau eraill rhaid i’r FI geisio arwain, neu dynnu’r NI i gyfeiriad newydd a bendithiol. Dyna athrylith Anghydffurfiaeth. Ein gwaith yw cynganeddu - cadw NI a FI mewn perffaith gynghanedd. Ein gwaith yw cynnal NI yr eglwys, wrth amddiffyn rhyddid a chyfraniad pob FI a berthyn i’r NI fawr wych hwnnw.