Mae 'na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni'r archwaeth am fwyd. Mae'n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy'n digwydd yn y 'koinônia' misol, a heddiw crynhodd rhyw ddeunaw ohonom a braf oedd cael croesawu dau gyd-aelod atom ar ôl cyfnod o waeledd. Does dim pall ar lif y sgwrsio a heddiw roedd haul cynnes y prynhawn yn ein hatgoffa o'r cwpled Daeth Ha' Bach Mihangel trwy weddill yr ŷd/Yn llond ei groen ac yn gelwydd i gyd. Bid a fo am hynny, gwnawn yn fawr ohono i fyrhau'r Gaeaf.