Pan fu farw Thomas Edison, Hydref 18fed 1931, ‘roedd ganddo hawliau patent ar dros 1,200 o ddyfeisiadau newydd. Edison, fel y gwyddom, a greodd y bylb golau - rywbeth a gymerir yn gwbl ganiataol erbyn heddiw.
Buont wrthi, mae’n debyg, Edison a’i gynorthwywyr yn gyson arbrofi ar wahanol gyfryngau, nes dod o hyd i’r ffilament delfrydol. Yng nghlwm wrth hynny, rhaid oedd hefyd sicrhau cysondeb y cymysgedd cywir o nwyon oddi fewn i’r bylb. Gwnaethpwyd hynny. O’r diwedd, o’r hir ddiwedd ‘roedd y bylb yn barod. Bellach, dim ond mynd â’r bylb o’r labordy lawr llawr i’r labordy lan lofft oedd angen, a chwblhau’r gwaith yno. ‘Roedd pawb yn hapus: dyma benllanw misoedd lawer o waith. Wrth gario’r bylb o’r naill labordy i’r llall, baglodd y cynorthwyydd! Do! Baglodd a gollwng misoedd o waith i’r llawr: y bwlb yn yfflon.
‘Doedd dim byd amdani ond dechrau o’r dechrau. Gwnaethpwyd hynny, a phedair awr ar hugain yn ddiweddarach, ‘roedd yr ail fwlb yn barod. Gwaith anodd, diflas yw ail-wneud yr hyn a wnaethpwyd yn barod, ond bellach ‘roedd y cyfan eto'n barod. Eto, rhaid oedd cario’r bylb o’r naill labordy i’r llall. Mynnai Edison mae’r union gynorthwyydd a ollyngodd y bylb cyntaf fuasai hefyd yn cario’r ail fwlb! Y fath ymddiriedaeth!
Ynglŷn â chymhwyso’r stori, holed pob un ef ei hun. Pa mor barod ydym i ymddiried o’r newydd yn y bobl hynny a’n siomodd? Wrth ystyried hyn, da fuasai myfyrio uwchben geiriau Thomas Phillips (1868-1936): Dau beth sy’n syndod imi. Ymddiriedaeth Duw mewn pobl ac amynedd Duw gyda phobl. (Thomas Phillips gol. E. Llwyd Williams 1906-1960; Ilston, 1940).
Cynnal fi’n wastadol, Arglwydd, â’r gwirionedd fod pob unigolyn yn cyfrif yn dy olwg di. Amen