Dydd Gŵyl Sant Luc
Sant Luc (c.1605) gan El Greco (1541-1614)
Yn gymaint â bod llawer wedi ymgymryd ag ysgrifennu hanes y pethau a gyflawnwyd yn ein plith, fel y traddodwyd hwy inni gan y rhai a fu o'r dechreuad yn llygad-dystion ac yn weision y gair, penderfynais innau, gan fy mod wedi ymchwilio yn fanwl i bopeth o'r dechreuad, eu hysgrifennu i ti yn eu trefn, ardderchocaf Theoffilus, er mwyn iti gael sicrwydd am y wybodaeth a dderbyniaist. (Luc 1:1-4)
A phwy oedd yr ardderchocaf Theoffilus? Gwyddom ni ddim i sicrwydd. Pwy bynnag ydoedd, 'roedd Luc â meddwl mawr ohono. Er mwyn sicrhau ei fod yn cael sicrwydd am y wybodaeth a dderbyniodd, aeth Luc i drafferth anferthol: gwnaeth astudiaeth drwyadl o holl dystiolaeth llygad-dystion a gweision yr Efengyl, a rhoes y manylion yn y drefn orau y medrai, er mwyn i Theoffilus eu deall, a derbyn bendith o'u herwydd.
Gymaint oedd parch Luc at y gŵr hwn fel na wnâi dim byd llai na'r holl wir y tro iddo. Gwyddai Luc fod yr ardderchocaf Theoffilus yn rhy fawr i gelwydd. Y gwir oedd angen, y gwir i gyd, a dim ond y gwir. Sarhad ar berson fel person yw cynnig iddo llai na'r gwir.
A heddiw yn Ddydd Gŵyl Sant Luc, buddiol buasai ystyried pwy yw ein hardderchocaf Theoffilus? Pwy ddylasai cael clywed yr Efengyl gennym - newyddion da - er mwyn iddynt gael sicrwydd am y wybodaeth a dderbyniasant?
"Bywha dy waith, O Arglwydd mawr, yn ein calonnau ninnau nawr ..." Amen
(Minimus 1808-80; CFf.: 243)