• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

PREGETH BORE SUL

October 18, 2015 Owain Evans

O! Iesu mawr, rho d’anian bur...

(David Charles, 1762-1834; C.Ff. 686)

William Williams (1717-91, Pantycelyn; ffermwr); John Thomas (1730-1804, Myddfai; gwas fferm); Dafydd Jones (1717-77, Caeo; porthmon); Nantlais (1874-1959, Rhydaman; gwehydd); David Charles (1762-1834, Caerfyrddin; gwneuthurwr rhaffau)...“The colour of the ground was in (them), the red earth; the smack and tang of elemental things ...” (gan Edwin Markham, 1852-1940, o’r gerdd Lincoln, Man of the People yn Modern American Poetry (1919); gol. Louis Untermeyer. Harcourt, Brace & Howe). Prentisiwyd David Charles mewn ffatri nyddu rhaffau yng Nghaerfyrddin. Mae Emyn 686 yng Nghaneuon Ffydd fel darn byr o raff sy’n hynod gref; hen raff sy’n ddigon tyn i ddal ein pwysau, i’n tynnu’n ôl a’n tynnu ymlaen.

O! Iesu mawr, rho d’anian bur

i eiddil gwan mewn anial dir,

i’w nerthu drwy’r holl rwystrau sy

ar ddyrys daith i’r Ganaan fry.

 Mawredd Crist, ond sylwer nad mawredd Crist yw’r peth cyntaf.  Man cychwyn yr emyn yw ‘O!’ – gyda’r ebychnod! Heb yr ebychnod, nid oes synnwyr i’r ‘O’. Yn yr ‘O!’ mae poen a diflastod yr anial dir ynghyd â rhwystredigaeth a lletchwithdod gwendid ac eiddilwch yr eiddil gwan. Wedi’r ‘O!’, daw’r ateb: Iesu mawr..., eli i ddolur yr anial dir a nerth i ddal ati. Dysg dal-atrwydd Iesu: ymlaen y cerddaist dan y groes a’r gwawd heb neb o’th du (George Rees, 1873-1950; C.Ff. 541) ein dal-atrwydd ninnau. Bu’r ‘eiddil gwan’ hwn yn cerdded trwy ddrain a mieri, tros foelydd, ffriddoedd a chloddiau. Yn nistawrwydd yr atalnod, cwyd y dyhead sydd yn nyfnder ei enaid i’r wyneb: ...rho d’anian bur i eiddil gwan mewn anial dir. Yn Iesu, daeth Duw atom, ac mae’r anian bur ar waith yn creu ac ail-greu ynom ffydd feiddgar, cariad mentrus a gobaith gwydn sy’n profi’n nerth drwy’r holl rwystrau sy/ ar ddyrys daith i’r Ganaan fry.

Yn yr ail bennill try’r dyhead yn fawl pan sylweddola’r eiddil gwan maint y cymorth sydd ar gael:

Pob gras sydd yn yr Eglwys fawr,

fry yn y nef neu ar y llawr,

caf feddu’r oll, eu meddu’n un,

wrth feddu d’anian di dy hun.

Yn sydyn daw’r eiddil gwan yn goncwerwr mawr! ...Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy'r hwn a’n carodd (Rhufeiniaid 8:37). Cyfeiriai’r fry yn y nef at y cysylltiad deinamig sydd rhyngom ni, pobl Dduw yng Nghrist, â’r cwmwl tystion. Pobl y daeth geiriau megis ‘ffydd’, ‘gobaith’ a ‘cariad’, ‘hedd’, ‘maddeuant’ ac ‘iachawdwriaeth’ yn eiriau’r bywyd iddynt. Heblaw am eu profiadau hwy prin byddai’r geiriau hyn wedi dod i’n clyw. O’r bobl hyn, eu menter a’u beiddgarwch, eu hofn a’u ffolineb, eu llwyddiannau a’u methiannau, y crëwyd a chrëir ein ffydd. Er mor bwysig y cwmwl tystion gwêl David Charles perygl dim ond gweld hwnnw. Pwy felly yw’r eglwys ar y llawr? Yn yr eglwys ar y llawr cyffwrdd ysbryd ag ysbryd, meddwl â meddwl, ac enaid ag enaid. Cynhaliwyd cymdeithas ar hyd y blynyddoedd gan bobl mewn cymundeb â Duw yng Nghrist. Beth yw’r eglwys ar y llawr? Cord, nid nodau sengl. I greu a chynnal y cord, rhaid wrth bob nodyn sengl; heb y cord, llipa yw’r nodyn sengl.

Mi lyna’n dawel wrth dy draed,

mi ganaf am rinweddau’r gwaed,

mi garia’r groes, mi nofia’r don,

ond cael dy anian dan fy mron.

Mae’r eiddil gwan bellach yn sôn am gario’r groes ac am nofio’r don. Mae bellach yn arwr ysbrydol. O gael yr anian, try’r eiddil gwan mewn anial dir yn ganwr, yn gariwr ac yn nofiwr; nid goroesi a wna ond arloesi. Mi lyna’n dawel wrth dy draed - meddyliwn am Mair: yr hon hefyd a eisteddodd wrth draed Iesu, ac a wrandawodd ar ei ymadrodd ef (Luc 10:39). Ein gwaith cyntaf ar ôl dod at Iesu yw bod yn ddigon gwylaidd i dderbyn ei fendith, ei oleuni a’i her. Beth yw rhinweddau’r gwaed? Eithr yr awr hon yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oeddych gynt ymhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist (Effesiaid 2:13). Trwy waed Crist crëwyd ohonom, deulu. Onid teulu yw’r eglwys leol? Yn llifo drwy bob aelod o’r teulu mae’r un anian; nodweddion teulu’r eglwys leol, fel pob teulu, yw: cariad, ymddiried a gwasanaeth. Mi garia’r groes, mi nofia’r don - nid dau beth ar wahân, ond un. Goddefol y naill - Mi garia’r groes - a buddugol y llall - mi nofia’r don. Yn ein plith mae aelodau o'r teulu sy’n wynebu cario’r groes, eraill yn nofio’r don. Ond cael dy anian dan fy mron. Cofiwn mai teulu ydym a bod yr un anian yn llifo drwy bob aelod o’r teulu hwnnw.

← PREGETH NOS SULEIN 'ARDDERCHOCAF THEOFFILUS' →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021