Ffydd a’i Phobl (2) (Hebreaid 11)
Abraham, Isaac, Jacob a Sara
Ym Mhennod 11 o’r Llythyr at yr Hebreaid, ceisir ateb y cwestiwn: Beth yw ffydd?
Trwy ffydd yr ufuddhaodd Abraham i’r alwad i fynd allan i’r lle yr oedd i’w dderbyn yn etifeddiaeth; ac fe aeth allan heb wybod i ble’r oedd yn mynd. Trwy ffydd yr ymfudodd i wlad yr addewid fel i wlad estron... (Hebreaid 11:8-9a). Mentrodd Abraham allan ar alwad Duw. Er na fu i Dduw enwi’r wlad iddo wrth ei alw, ufuddhaodd Abram; dim ond wedi cyrraedd Gwlad yr Addewid Fawr y cafodd wybod ei fod bellach yno! Gan iddo deimlo mai Duw oedd yn galw, ac y byddai Duw yn ei arwain, ufuddhaodd. Geilw Duw, cyfarwydda hefyd. Anfon Duw, arwain hefyd. Mae’r Duw sy’n ein cymell i deithio, yn teithio gyda ni. Ffydd yw gwybod fod credu yn Nuw yn golygu fod ffordd. Egni cynhaliol, creadigol a chynhyrchiol yw ufudd-dod; dyma’r egni a dry ein crefydd yn anturiaeth ddi-ben-draw. Gwnaf di’n genedl fawr a bendithiaf di; mawrygaf dy enw a byddi’n fendith. (Genesis 12:2) Addewid Duw i Abram. Duw yn rhoi bendith, ac Abram yn estyn y fendith ymlaen. Onid yw ffydd yn ymdebygu i ras gyfnewid? Yn ein llaw mae baton rhin anturiaeth fawr y groes ac os na fydd ein gweinidogaeth yn yr eglwys leol yn fynegiant llawen o ysbryd anturiaethus a chreadigol ffydd, byddwn wedi gollwng y baton o’n llaw ...a chwbl ofer pob rhedeg wedyn.
Trwy ffydd yr ymfudodd i wlad yr addewid fel i wlad estron, a thrigodd mewn pebyll, fel y gwnaeth Isaac a Jacob, cyd-etifeddion yr un addewid. (Hebreaid 11:9) Isaac: prin y cysylltwn fawredd ag Isaac. Cam ag ef yw hynny; bu Isaac yn anffodus! Ei dad oedd Abraham, un o gewri mawr y ffydd, a’i fab oedd y Jacob mentrus a ymgodymodd â Duw. O’i gymharu â’r ddau wron hyn, digon dinod oedd Isaac. Beth yw cyfraniad Isaac i ateb y cwestiwn? Ffoadur ydoedd, yn symud o un man i’r llall a phob tro yr oedodd mewn lle newydd gwnaeth dri pheth trawiadol iawn: ...adeiladodd yno allor, a galw ar enw’r Arglwydd; cododd ei babell yno, a chloddiodd gweision Isaac ffynnon yno (Genesis 26: 25). Ceir datganiad o ffydd wrth godi allor, a galw ar enw’r Arglwydd; wrth osod pabell mae’n pwysleisio gwerth cysgod, cysur a chwlwm cariad y teulu; gwaith cwbl angenrheidiol oedd cloddio ffynnon - adnodd elfennol bywyd oedd dŵr. Campwaith Isaac oedd pwysleisio tair elfen y bywyd cyflawn - ffydd, cariad a gwaith, ond sylwer mai’r allor gafodd y sylw cyntaf. Gadwyd Jacob ei hunan, ac ymgodymodd gŵr ag ef hyd doriad y wawr (Genesis 32: 24) Gadawodd y noson ei ôl ar Jacob am byth! Fe’i cloffwyd, ond cerddodd yn ystwythach ac yn unionach fyth wedyn. Nid Jacob y disodlwr a’r twyllwr oedd mwyach, ond Israel, tywysog Duw. Cymeriad eithriadol gymhleth oedd Jacob, ond cymeriad llwyr ymwybodol o Dduw, ac o’i berthynas â Duw. Beth yw ffydd? Ymrafael. Nid ni yn ymrafael â Duw, ond Duw yn ymrafael â ni. Bwriad Duw yw ein newid; i greu o’r Jacob ynom, Israel. I greu o’r twyllwr ffôl, dywysog. Ffydd yw gwybod fod Duw yn ymrafael â ni.
Trwy ffydd - a Sara hithau yn ddiffrwyth - y cafodd nerth i genhedlu plentyn, er cymaint ei oedran, am iddo gyfrif yn ffyddlon yr hwn oedd wedi addo (Hebreaid 11:11) Sarai’n 90 ac Abram bron yn 100. Abram: enw’n golygu Hen Dad ond tad mewn enw yn unig ydoedd. Sarai: enw’n golygu Gwawd; ‘roedd gwraig heb genhedlu yn destun gwawd a dirmyg. Cewch eich bendithio â mab, meddai Duw wrthynt, ac i ddangos nad oedd dim yn amhosibl iddo, newidiodd enwau’r ddau. Ailenwi Abram yn Abraham: o Hen Dad i Tad i Nifer. Ailenwi Sarai i Sara, o Gwawd i Tywysoges. Dim ond Duw fynna ailenwi pobl - dileu’r hunaniaeth a danlinella eu gofid, tristwch a methiant, a rhoi hunaniaeth newydd iddynt a bwysleisia eu rhinweddau a’u potensial fel plant Duw Dad. Ffydd yw credu fod Duw yn credu ynom ni. Ffydd yw derbyn fod gan Dduw ffydd ynom ni.
Beth yw ffydd?
Fe’n hatgoffir gan Abraham mai ‘arwriaeth hardd’ a ‘dewrder gloyw’ yw ffydd.
Amlyga bywyd Isaac nad atodiad i fywyd yw ffydd, ond hanfod byw.
Dangos Jacob i ni mai ymrafael yw ffydd - Duw yn ymrafael â ni.
Dysgwn gan Sara mai ffydd yw derbyn fod gan Dduw ffydd ynom ni.