Hydref...mis yr hydd-fref: yr adeg yma o’r flwyddyn y clywai’r hen Gymry gynt yr hydd yn brefu mewn llawer man drwy’n gwlad. Ni chlywir yr hydd mwyach yng Nghymru, ond...ledled Cymru mae pobl, sydd yn gwybod am brofiad y Salmydd: Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid am danat ti, O! Dduw (42:1 WM). Gwyddom fod gennym anghenion na all dim eu diwallu ond gwir addoliad - Cwrdd go iawn, Gwasanaeth o ddifri. Hawdd iawn anghofio ein bod yn dibynnu ar ein cymdeithas â’n gilydd ym mater ein ffydd. Ymhob cylch arall tyfu yw tyfu i fod yn fwy annibynnol ar arall. Y gwrthwyneb sy’n wir am y bywyd Cristnogol; tyfu yw dod yn fwy dibynnol ar ein gilydd, dysgu cydweithio, cydymdeimlo, cydganu, cyd-ddyheu a chydaddoli, cyd-brofi a chyd-ryfeddu. Wrth eu rhannu ag eraill y mae cadw bendithion cariad Duw. Â ninnau bellach heibio canol Hydref, y coed yn prysur fatryd, y gerddi a’r meysydd yn troi’n fwy llwm a gwacach bob dydd, da yw profi o wres cymdeithas pobl Dduw.
Dau ffrind mawr, Mali a Gwen, oedd yn arwain ein defosiwn heddiw. Cafwyd gan Gwen, darlleniad o waith Arwel John:
Wrth dorri gair
ar dywod aur y traeth;
wrth gerdded bys
ar hyd ewyn llaeth;
wrth gyfri’r cregyn gyda’r noson glaer,
mi ganaf gân o glod i Fab y Saer.
Am ddawnsio’r dail
ar gangau’r dderwen fawr;
am ditw ciwt
â’i wasgod fel y wawr;
am fachlud mwyn ac enfys wedi glaw,
mi ganaf gân o glod am waith ei law.
Pan hêd y dryw
â’i lygad tua’r sêr;
pan brancia’r ŵyn
hyd erwau blodau pêr;
pan ddringa’r gwanwyn lethrau’r Mynydd Du
mi ganaf gân o glod i’r Iesu cu.
Fe’n harweiniwyd yn annwyl ddiogel mewn gweddi gan Mali. Braf oedd gweld y sêt fawr heddiw yn drwm o 'blant-pob-un-ag-adnod'!
Bellach, mae sgwrs plant trydydd Sul y mis yn barhad o’r Oedfa Deulu'r Sul-pen-mis! Mae’r plant a’r plantos wedi deall i’r dim. Cyn i’r Gweinidog orffen gofyn oes oeddent yn cofio thema mis Hydref, daeth yr ateb o sawl cyfeiriad: ‘2’!
Trên o sgwrs plant oedd gan Owain Llyr heddiw: yn symud ar garlam, ac yn galw mewn sawl man ar y ffordd! Aethom o ‘2’ i ‘II’ i ‘Gwyddau Gwyllt’ i ‘Rhodd Mam’ i ‘118 118’.
Wedi dangos balŵn yn siâp y rhif 2 i’r plant, gofynnodd y Gweinidog a wyddant tybed, am ffordd arall o ysgrifennu’r rhif? Nid oedd y plant yn gwbl siŵr, ond yn dawel daeth sylweddoliad: ‘Fel hyn: II’. Gan symud y naill ‘I’ a’r llall y mymryn lleiaf, crëwyd Λ. Ym mis Hydref, ffarwelia’r adar â ni, ac yn eu plith y gwyddau gwyllt. Cyn iddynt ddychwelyd yma yn y gwanwyn, byddant wedi teithio cannoedd ar gannoedd o filltiroedd dros fôr a thir. Mae’r gwyddau gwyllt yn hedfan, gyda’i gilydd fel hyn Λ. Mae symud adenydd yr aderyn cyntaf yn gymorth i’r aderyn sydd y tu ôl iddo; nid yw’r gwŷdd yn y cefn yn gorfod gweithio mor galed â’r gwŷdd sydd yn arwain. Felly, pan mae’r gwŷdd ar y blaen yn blino, mae hi’n syrthio ‘n ôl i’r cefn, a gwŷdd arall yn cymryd ei lle. Maen nhw’n dweud hefyd, os mae un o’r gwyddau, digwydd bod yn cael dolur, fod un neu ddau o’r gwyddau eraill yn aros gyda’r claf, nes ei fod yn holliach eto, ac yn barod i hedfan. ‘Dyma ddarlun o eglwys Minny Street’, meddai’r Gweinidog. Edrychai’r plant yn syn! ‘Onid ydym yn cynnal ein gilydd ar daith ffydd, pawb yn gofalu am bawb?’ Cytunai’r plant. ‘Onid ydym yn gofalu am ein gilydd?’ Eto, unfrydedd ymhlith y plant. ‘Roedd y trên yn symud ymlaen, a chyrraedd y llyfryn a elwir ‘Rhodd Mam’ (‘Roedd rhai o’r oedolion yn cofio!). Yn y llyfryn hwnnw mae’r cwestiwn: ‘Pa sawl math o blant sydd?’ Allwch chi ateb? Ie. Dau; plant da, a phlant drwg. Nid oedd y Gweinidog yn siŵr am hyn. Beth oedd barn y plant? Cytunwyd fod plant da a phlant drwg! Ond bod plant da, weithiau yn gallu bod yn blant drwg; a bod plant drwg, weithiau’n blant da! Dangosodd y Gweinidog darn mawr o bapur gwyn, ac yn ei chanol cylch bychan bach o ddu. Gofynnwyd i’r plant a phlantos, yn syml, i ddatgan beth oeddent yn gweld. ‘Roedd pawb yn gweld y cylch bychan bach o ddu. A oedd rhywbeth arall i weld? Dim ond y cylch bychan bach du, ond na, ‘roedd ‘na ddwylo bach wedi codi’n uchel, ac yn sydyn cafodd y Gweinidog yr ateb plaen a huawdl: ‘Lot o wyn! Lot o wyn!’ O! Am weld nid y drwg sydd ym mhobl ond hefyd y da. ‘Roedd y trên eto'n gadael y stesion; gan ddychwelyd at ‘II’, ychwanegodd y gweinidog ‘8’. 118? Os ydych angen rhif ffôn, gellid galw 118 118. Awgrymodd y Gweinidog fod gan Dduw rhif ffôn. 333. Â hwythau wedi meddwl na fuasai’r un her iddynt heddiw, gofynnodd y Gweinidog i’r bobl ifanc chwilio a thwrio am Jeremeia 33:3a. Heddiw, Mared a orfu: Galw arnaf, ac atebaf di. Gyda hynny, cyrhaeddodd trên y sgwrs plant pendraw ei thaith: dwylo ynghyd, llygaid ar gau, a phawb ohonom, o’r ieuangaf i'r hynaf yn cyd-weddïo Gweddi Fawr ein Harglwydd Iesu Grist. Daeth yn amser i'r plant a'r plantos i fynd i'w gwersi. Arhosodd y bobl ifanc i wrando'r bregeth. Testun gwersi'r Ysgol Sul hediw oedd y Rhif 2 ac Arch Noa.
Crëwyd Arch Noa allan o ddau blât bapur, a'r anifeiliaid? Pecyn bychan o 'Cadbury Chocolate Animals'!
Bu’r gweinidog yn cyfeirio’n gyson y mis hwn at emyn David Charles (1762-1834; CFf.: 686), a’r emyn hwnnw oedd testun ein sylw y bore hwn. Gair mawr yr emyn yw ‘anian’. Mae’r gair ‘anian’ yn ymddangos deirgwaith yn y Beibl Cymraeg Newydd (Ioan 3:31; Actau 14:15; Iago 5:17), a dwywaith yng nghyfieithiad William Morgan (Rhufeiniad 1:26 a 2 Pedr 1:4). Pump i gyd felly, oherwydd nid yw Beibl William Morgan yn defnyddio ‘anian’ lle defnyddir ‘anian’ ym Meibl 1988, ac nid yw Beibl 1988 yn defnyddio ‘anian’ lle ceir ‘anian’ ym Meibl William Morgan! Gan mai Beibl William Morgan oedd Beibl David Charles, dylid ystyried yr adnod hon o 2 Pedr: Trwy yr hyn a rhoddwyd i ni addewidion mawr iawn a gwerthfawr; fel trwy y rhai hyn y byddwch gyfranogion o’r dduwiol anian...(1:4 WM)
Yng ngoleuni 2 Pedr 1:4 mae David Charles ym mhennill cyntaf yr emyn hwn yn dyheu am gael rhannu o natur ysbrydol Iesu; natur llawn ffydd, gobaith a chariad. Yr anian bur - y natur llawn cariad hwn - yw’r peth cyntaf. Daw popeth arall o, ac oherwydd yr anian bur. Mae gwir Gristnogaeth yn dechrau gyda’r anian; genesis ein ffydd yw’r natur oddi mewn, ac o’r natur oddi mewn daw’r ymddygiad a’r gweithredoedd allanol. Angen pennaf, dyhead dwysaf yr eiddil gwan mewn anial dir yw cael dy anian dan fy mron. Hyn a’n gwna: eiddil a gwan fel ag yr ydym yn fwy na choncwerwyr, trwy'r hwn a’n carodd (Rhufeiniaid 8:37).
Dengys yr ail bennill le canolog yr Eglwys ar y ddaear ac yn y nef. I feithrin y duwiol anian rhaid wrth gymdeithas yr Eglwys. Rhaid wrth nerth a chefnogaeth y cwmwl tystion fry yn y nef, a rhaid wrth gymdeithas symudliw’r eglwys leol ar y llawr. Bu’r Eglwys fawr ar hyd yr oesoedd yn gyfrwng bendith Duw. Teulu’r ffydd a ŵyr wir gyfrinach y ffydd, nid y Cristion sydd ar ei ben ei hun. Yn enwedig os yw’n hoff o fod ar ei ben ei hun! Deallodd Paul hyn; sylweddolodd fod i’r cwrdd mynych â’n gilydd, y parodrwydd i gydweithio, cydymdeimlo, cydaddoli posibilrwydd gogoneddus: Chi, meddai, yw corff Crist (1 Corinthiaid 12:27).
Mae’r pennill olaf yn glo grymus. Mae’r eiddil gwan bellach yn sôn am gario’r groes ac am nofio’r don. - nid dau beth ar wahân, ond un. Goddefol y naill - Mi garia’r groes - a buddugol y llall - mi nofia’r don. Yn ein plith mae aelodau o deulu'r eglwys sy’n cario’r groes; ond mae eraill yn nofio’r don. Ond cael dy anian dan fy mron gallwn gyflawni, a chynorthwyo eraill i gyflawni’r naill gamp a’r llall.
Prentisiwyd David Charles mewn ffatri nyddu rhaffau yng Nghaerfyrddin, ac mae’r emyn tri phennill hwn fel darn byr o raff sy’n hynod gref. Diolch i David Charles rhoddi rhaff i enaid. Bendithiol y gyfres hon o fyfyrdodau. Pa emyn fydd nesaf tybed?
Arweiniwyd gweddi’r Oedfa Foreol gan Mair.
Ffydd a’i Phobl oedd testun ein sylw heno, ac yn benodol Abraham, Isaac, Jacob a Sara. Mae’r myfyrdodau rhain gan ein Gweinidog yn seiliedig ar y cymeriadau rheini a enwid yn Hebreaid 11. Gwyddom bellach fod y gyfres hon yn golygu newid trefn yr Oedfa Hwyrol yn llwyr! Wedi gwrando ychydig adnodau o’r bennod hynod fawr hon, ac yna ystyried cyfraniad y naill gymeriad ar ôl y llall i’r ateb a geisiwn: 'Beth yw ffydd?', cenir emyn sydd yn adlewyrchu a chadarnhau’r neges. Buddiol a ffres y gyfres hon. Awn rhagom y tro nesaf i ystyried Esau, Joseff a Moses (Hebreaid 11:20-31).
Ond, Abraham oedd ein man cychwyn heno (Hebreaid 11:8-9a). Mentrodd Abraham allan ar alwad Duw. Dos o’th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth a’th deulu i’r wlad a ddangosaf iti (Genesis 12:1). Mae’r ymateb, mewn ffydd yn syfrdanol. Gan iddo deimlo mai Duw oedd yn galw, ac y byddai Duw yn ei arwain, ufuddhaodd. Geilw Duw, cyfarwydda hefyd. Anfon Duw, arwain hefyd. Mae’r Duw sy’n ein cymell i deithio, yn teithio gyda ni. I gyrraedd y lle na wyddom, rhaid mentro’r ffordd na wyddom.
Ymlaen gan ystyried Isaac a Jacob (Hebreaid 11: 9) Ffoadur oedd Isaac, yn symud o fan i fan, a phob tro yr oedodd mewn lle newydd gwnaeth dri pheth trawiadol iawn: ...adeiladodd yno allor, a galw ar enw’r Arglwydd; cododd ei babell yno, a chloddiodd gweision Isaac ffynnon yno (Genesis 26: 25). Ceir datganiad o ffydd wrth godi allor, a galw ar enw’r Arglwydd; wrth osod pabell mae’n pwysleisio gwerth cysgod, cysur a chwlwm cariad y teulu; gwaith cwbl angenrheidiol oedd cloddio ffynnon. Campwaith Isaac oedd pwysleisio tair elfen y bywyd cyflawn - ffydd, cariad a gwaith, ond sylwer mai’r allor - ffydd - gafodd y sylw cyntaf.
Gadwyd Jacob ei hunan, ac ymgodymodd gŵr ag ef hyd doriad y wawr (Genesis 32: 24). Cymeriad eithriadol gymhleth oedd Jacob, ond cymeriad llwyr ymwybodol o Dduw, ac o’i berthynas â Duw. Beth yw ffydd? Ymrafael. Nid ni yn ymrafael â Duw, ond Duw yn ymrafael â ni.. Ffydd yw gwybod fod Duw yn ymrafael â ni.
Trwy ffydd - a Sara hithau yn ddiffrwyth - y cafodd nerth i genhedlu plentyn, er cymaint ei oedran, am iddo gyfrif yn ffyddlon yr hwn oedd wedi addo (Hebreaid 11:11) Sarai: enw’n golygu Gwawd; yr adeg honno, ‘roedd gwraig heb genhedlu yn destun gwawd a dirmyg. Fel gwarant o’r Addewid fawr, mae Duw yn ailenwi Sarai yn Sara, try Gwawd yn Tywysoges. Ffydd yw credu fod Duw yn credu ynom ni. Fe wêl tu hwnt i’n gwawd - gwêl ein mawredd.
Beth yw ffydd?
Fe’n hatgoffir gan Abraham mai arwriaeth a dewrder yw ffydd.
Amlyga bywyd Isaac nad atodiad i fywyd yw ffydd, ond hanfod byw.
Dangos Jacob i ni mai ymrafael yw ffydd - Duw yn ymrafael â ni.
Dysgwn gan Sara mai ffydd yw derbyn fod gan Dduw ffydd ynom ni.
Y peth olaf ym mhob oedfa yw’r fendith. Cyfarchwn ein gilydd wrth ymado â’n gilydd. Nid chwalu a wna cynulleidfa o Gristnogion ond cael ei chyflwyno i ofal y Duw sy’n ein cadw ni rhag ymchwalu. Diolch am fendithion y Sul, diolch am fendithion cwmni pobl Dduw. Boed i fendith y bendithion diasbedain drwy’r wythnos newydd hon.
Bu i’r gymdeithas barhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Braint fawr i ni fel eglwys yw cael y wefan hon wedi ei henwebi, a bellach, cyrraedd rhestr fer y Premier Digital Awards 2015/Most Engaging Small Church Site. Daw'r dyfarniad terfynol erbyn Tachwedd 14eg. Ceir rhagor o wybodaeth fan hyn: http://www.premierdigital.org.uk/Premier-Digital-Awards/Shortlist