Noson wahanol oedd heno i’r PIMSwyr. Yn hytrach na chyfarfod yn Festri Minny Street, pawb yn ymgynnull yn warws Banc Bwyd Caerdydd. Alun Treharne, un o wirfoddolwyr gweithgar Eglwys Minny Street yn y Banc Bwyd, oedd wedi trefnu’r noson. Da oedd cael cwmni Rhun, Ieuan, Rhiannon a Dianne - bu pawb ohonom, trwy'r trwch, o'r ieuangaf i'r hynaf yn gweithio a chyd-weithio. Share Bower, Rheolwraig Gyffredinol newydd y Banc Bwyd gyda chymorth Catherine Williams, y Rheolwr Warws a fu’n tywys y PIMSwyr trwy weithgarwch y sesiwn. Yn gyntaf, sgwrs fer yn egluro sut mae’r Banc Bwyd yn gweithio. Cyfraniadau o nifer o ffynonellau - eglwysi, ysgolion, archfarchnadoedd ac unigolion; y cyfan yn dod i’r warws lle caiff y nwyddau eu didoli, eu gwirio o ran addasrwydd (heb fod yn rhy hen, pecynnau cyflawn ac ati), ac yna sôn sut y’u dosberthir i’r chwe canolfan ar draws y ddinas... yn Llanedern, Llaneirwg, Splot, Trelái a’r Waun Ddyfal, ynghyd â’r City Temple. Mae pob banc bwyd i gadw digon o fwyd mewn stoc i bara 3 mis - anaml iawn mae’r cyflenwad bwyd yn ddigonol i wneud hyn. Yna, daeth yn amser i dorchi llewys! Yn gyntaf, dyddio pob nwydd sydd wedi dod i law. Rhaid yn gyntaf weld a ydy’r bwyd yn dderbyniol i’w rannu - chwilio felly am y ‘Best Before’. Os nad yw’n gyfredol, rhaid ei wahanu; nid yw’n dderbyniol i’r Banc Bwyd rannu bwyd a all fod yn hen. Yna, os yn gyfredol, labeli pob tin, pecyn a bocs gyda’r dyddiad priodol - hyn yn gymorth i sicrhau pa fwyd sy’n mynd allan o'r warws gyntaf. Tra bu nifer o’r PIMSwyr yn gwneud hyn, bu aelodau eraill yn gosod yr amrywiol gynnyrch yn eu hadrannau priodol, y cyfan wedi gosod yn dwt fesul blwyddyn.
Dysgwyd llawer, profwyd a rhyfeddwyd at gymaint o waith sy’n digwydd. Fel dywedodd Ifan - a fu, truan ag ef, yn ceisio cadw trefn ar y Gweinidog wrth iddynt fynd i'r afael â bocs ar ôl bocs o nwdls - prin i’r un ohonom sylweddoli cymaint sy’n digwydd i’r pecyn nwdls a roddwn yn y bocs yng nghyntedd y capel cyn iddo gyrraedd plât swper un o drigolion Caerdydd! Noson hynod gofiadwy fu hon!