8:45 yr hwyr, â chwmni bychan yn ymgasglu. O’r gadair esmwyth a gwers y tân; o’r gwaith; o gyfarfod a phwyllgor; o gludo’r plant o’r naill le i’r llall ac yn ôl...daethom i Gapernaum.
Capernaum?
Pan aeth hi’n hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr, ac i mewn i gwch, a dechrau croesi’r môr i Gapernaum. (Ioan 6: 16,17)
Capernaum?
Ar derfyn dydd, awr o ddefosiwn, gweddi, llonyddwch, myfyrdod a...heno trafodaeth frwd a phellgyrhaeddol: 'Beth yw ein lle yng nghynllun Duw?'; 'Sut mae ewyllys Duw yn cwmpasu'r poenau a'r trallodion sydd gymaint rhan o fywyd?'; 'A'i mater o gydsynio â datganiadau athrawiaethol am Dduw yw credu yn Nuw, neu ymddiried ein hunain i'w ofal a'i arweiniad?'.
Man cychwyn y cyfan oll oedd Gweddi Plentyn (Genesis 21: 14-21): cri plentyn nad oedd yn dweud yr un gair ddaw. Gweddi rhyfedd iawn. Efallai na fuasai pawb yn barod i ystyried hyn yn weddi o gwbl, ond mae’r darlleniad yn ein sicrhau: Clywodd Duw lais y plentyn...(Genesis 21: 17a).
Lle enbyd iawn yw diffeithwch Beerseba. Ni fuasai costrel o ddŵr yn para’n hir i fam a’i phlentyn. ‘Roedd y gwres yn llethol, ac ni allai un mewn oed a nerth iechyd ei oddef yn hir, heb sôn am fachgen ifanc, heb ddim ond rhyw dipyn o lwyn yn gysgod: Pan oedd y dŵr yn y gostrel wedi darfod, gosododd y bachgen i lawr dan un o’r llwyni, ac aeth i eistedd pellter ergyd bwa oddi wrtho, gan ddweud, ‘Ni allaf edrych ar y bachgen yn marw.’ (Genesis 21:15,16).
Os oedd Hagar wedi anghofio Duw, nid oedd Duw wedi anghofio Hagar. Clywodd Duw lais y plentyn, ac o’r herwydd clywed ei gweddi hithau. ‘Roedd cynllun na ellid ei ddifetha ar gyfer Hagar ac Ismael. Clywodd Duw lais y plentyn, ac o’r herwydd clywodd Hagar lais Duw. Gwelodd bydew. Dŵr, gobaith, bywyd.
Mae Iesu’n awgrymu bod angel gwarcheidiol i blentyn: Gwyliwch rhag i chwi ddirmygu un o’r rhai bychain hyn; oherwydd ‘rwy’n dweud wrthych fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn edrych ar wyneb fy Nhad sydd yn y nefoedd (Mathew 18:10). Credwn, felly bod Duw yn clywed cri pob plentyn, er nad yw’n alluog i fynegi ei anghenion mewn geiriau. Yng ngolwg Duw, plant ydym, bob un, ac fel plant down ato; ‘roedd Paul wedi deall: ...ni wyddom ni sut y dylem weddïo...(Rhufeiniaid 8:26). Dyna brofiad cyffredin iawn i’r rheini sydd o ddifrif am weddi a gweddïo.
Ond, beth sydd yn digwydd pan fyddwn yn medru gwneud dim amgenach na rhoi cri, ochenaid calon, fel plentyn na fedr fynegi ei angen mewn geiriau? Mae’r adnod honno o eiddo Paul...ni wyddom ni sut y dylem weddïo...yn parhau...ond y mae’r Ysbryd ei hun yn ymbil trosom ag ocheneidiau y tu hwnt i eiriau...(8:26).
Heno, yng Nghapernaum, cawsom gyfle i weld a deall o’r newydd, mor fawr a phwysig y gwahaniaeth rhwng costrel a phydew.
Gall Abraham roi costrel o ddŵr, ond Duw biau’r pydew. Mae sawl costrel o fendith ar gael, a diolch amdanynt bob un, ond mae pob costrel yn sychu. Heno, daethom eto i’r pydew, gan ddrachtio’n ddwfn o’r adnoddau dihysbydd sydd gan Dduw ar ein cyfer: gweddi a gweddïo; trafod cred a phrofi ffydd, rhannu gofid a meithrin hyder.