Ym mis Mai 2013, cyhoeddwyd Adroddiad o Drafodaethau ac Argymhellion Gweithgor Gweinidogaeth Eglwys Minny Street. Y cyntaf o bum flaenoriaeth a nodwyd i waith a chenhadaeth yr eglwys hon oedd Addoliad. Wrth ymfalchïo yn arddull, naws ac ehangder ein haddoliad, teimlai’r Gweithgor bod yna gyfleoedd i gynyddu ymwneud aelodau yn ein hoedfaon. Hyn, nid yn unig er mwyn datblygu "gweinidogaeth yr holl saint", ond hefyd, fel modd i feithrin cynulleidfa a fydd, gobeithio, yn fwy parod i ymgymryd â threfnu ac arwain oedfaon pan fydd, efallai, mwy o alw (e.e. cyfnod di-weinidog). Cytunwyd bod angen meithrin, ymysg ein haelodau, barodrwydd i gynnig gwasanaeth yn hytrach na disgwyl i rywun ofyn. Gwelwyd hefyd gyfleoedd trwy’r fath ymwneud i ennyn ymdeimlad o gyd-weithio ymysg grwpiau o aelodau’r gynulleidfa.
Bellach, mae pob pumed Sul yn y mis yn gyfle i aelodau’r eglwys i drefnu a chynnal yr addoliad. Buddiol a bendithiol yw hyn. Bydd Oedfa Foreol 10:30 Sul y Fam dan arweiniad aelodau Cyncoed a Phenylan. Cynhelir Ysgol Sul. Bydd cyfle yn yr oedfa i gyfrannu tuag at Apêl Argyfwng Seiclon Idai. Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa.
Liw nos (18:00), byddwn yn ymuno yng Ngŵyl Bregethu Eglwys Tabernacl, yr Ais: pregethir gan y Parchedig Judith Morris (Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru). Ni fydd Oedfa Hwyrol ym Minny Street.
PIMS nos Lun (1/4; 19:00-20:30 yn y Festri).
Nos Fawrth (2/4; 19:30-20:30): Y Grawys mewn lliw, llun a llinell dan arweiniad Owain Llyr (yn y festri).
Babimini bore Gwener (5/4; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.