Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Aled Edwards (Prif Weithredwr Cytûn). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol ac Ysgol Sul am 10:30. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00. Bydd cyfle yn oedfaon y dydd i gyfrannu tuag at Apêl Argyfwng Seiclon Idai.
Cyfod, a dos i waered i dŷ y crochenydd (Jeremeia 18:2). Nos Fawrth (28/3; 19:30-20:30): Noson o Grochenwaith. (Nifer cyfyngedig ... y cyntaf i’r droell! Cysylltwch ag Owain Llyr cyn nos Lun).
Bore Gwener (29/3; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned a thrafodaeth wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Elfed ap Nefydd Roberts: Dehongli’r Damhegion (Cyhoeddiadau’r Gair, 2008). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Y Pharisead a’r Casglwr Trethi (t.107-111).