Yn yr Oedfa Foreol (YS) a Hwyrol (10:30 a 18:00) byddwn yn parhau â’r gyfres ‘Anghymharol Brydferthwch Crist’. Y pedwerydd a phumed Gwynfyd fydd yn destun sylw. Bydd y naill a’r llall yn amlygu cyfrinach eglwys leol wirioneddol brydferth ei gwasanaeth a chenhadaeth: o fewn cyfyng furiau’r capel, neuadd fawr wythonglog.
Dyma’r bedwaredd ongl i’r Oedfa Foreol: Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir. (Mathew 5:6) Mae’r eglwys brydferth yn llawn sylweddoli nad digon dymuno tegwch. Nid yw eisiau cyfiawnder yn ddigon. Nid digon eisiau Duw ... rhaid dyheu amdano. Mae’r dyhead hwn yn anesmwytho’r eglwys brydferth. Yr anesmwythyd hwnnw a’i gwna’n brydferth. Mae’r eglwys brydferth yn chwilio chwilio, twrio twrio, chwalu a phalu nes diwallu’r dyhead am degwch, am gymod, am gymdeithas, am ffydd, gobaith, cariad ... nes diwallu ei dyhead am Dduw.
I’r Oedfa Hwyrol y bumed ongl: Gwyn eu byd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd. (Mathew 5:7). Dyna drefn Duw. Trugaredd yw’r ymgais fwriadol gyson i geisio lles un arall, gan ddangos cydymdeimlad tuag ato ac estyn caredigrwydd iddo. Gofynnir hyn gennym oblegid mae felly y mae Duw yn ymddwyn tuag atom.
Bydd cyfle i gyfrannu nwyddau tuag at Oasis yn ystod y dydd.
Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00. Bydd naws y Grawys yr wythnos hon eto ar #BoreolWeddi #HwyrolWeddi @MinnyStreet Ymunwch â ni. Boed bendith yn wir.
PIMS nos Lun (18/3; 19:00-20:30 yn y Festri).
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (Nos Fawrth 19/3; 19:00): Cinio Pen Tymor yng Nghlwb Golff yr Eglwys Newydd gyda Mrs Rhiannon Evans yn westai gwadd (angen archebu ymlaen llaw).