Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (10/3 am 9:30 yn y Festri). Echel y cyfan fydd y cyfarwydd ar ei newydd wedd! Ni fydd angen geiriau arnom erbyn Sul y Pasg! Am wybod rhagor? Dewch â chroeso. Byddwn yn falch o’ch cwmni, o’r ieuengaf i’r hynaf.
Gweinir brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol; bydd hefyd cyfle i weld arddangosfa o’r amrywiaeth o nwyddau Masnach Deg sydd ar gael. Bydd cyfle i gyfrannu tuag at Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y dydd.
Yn yr Oedfa Foreol a Hwyrol (10:30 a 18:00) byddwn yn parhau â’r gyfres ‘Anghymharol Brydferthwch Crist’. Yr ail a thrydydd Gwynfyd fydd yn destun sylw. Bydd y naill a’r llall yn ein harwain fesul gam yn nes at ddarganfod cyfrinach eglwys leol wirioneddol brydferth ei gwasanaeth a chenhadaeth: o fewn cyfyng furiau’r capel, neuadd fawr wythonglog.
Dyma’r ail ongl i’r Oedfa Foreol: Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir. (Mathew 5:4). Mae’r eglwys brydferth yn sicrhau gofod a chyfle i alar a hiraeth, i siom a diflastod, heb fod y tamaid lleiaf o’r tamaid lleiaf o bwysau ar bobl i lonni, i wenu, i fod yn hapus. Mae colli, hiraethu a galaru yn tyllu i’r hyn ydym gan gloddio siambr yn yr enaid. I’r siambr honno y llif cysur a chymorth i fyw, ac o’r siambr hon i eraill, llifa cymorth a chysur. Cynhelir Cwrdd Eglwys wedi’r Oedfa Foreol.
I’r Oedfa Hwyrol y drydedd ongl: Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear. (Mathew 5:5). Eglwys brydferth fydd hon os fydd yma barodrwydd i dderbyn a dysgu gan yr addfwyn; os fydd yma barodrwydd i feithrin, cynnal a hybu addfwynder. Ie, eglwys brydferth fydd hon os fydd yma groeso a lloches i’r victims; pobl yn byw a bod yng nghanol storm o drais, erledigaeth, gwawd a dirmyg ond sydd yn mynnu er waethaf hynny troi'r boch arall, a cherdded yr ail filltir, a rhannu ei heiddo gyda’r union bobl hynny sydd yn chwerthin ar eu pennau, neu yn eu herlid hyd yn oed. Mae’r bobl hyn yn unrhyw beth ond victims. Yr addfwyn ydynt. Maen nhw, i fenthyg geiriau Paul, yn fwy na choncwerwyr. Rhain fydd yn etifeddu’r ddaear.
Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00. Bydd naws y Grawys yn datblygu’r wythnos hon ar #BoreolWeddi #HwyrolWeddi @MinnyStreet Ymunwch â ni. Boed bendith yn wir.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i’r dyfodol.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (Nos Fawrth 12/3; 19:30 yn y Festri): "Deuawd Gerddorol" yng nghwmni Ann a Mehefin.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (13/3): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Nos Iau (14/3; 19:30 yn y Tabernacl, Yr Ais): Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd. Neges y Grawys yng nghyd-destun gwaith Cymorth Cristnogol yng nghwmni Cynan Llwyd.
Babimini bore Gwener (15/3; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.