Y GRAWYS MEWN LLUN, LLIW A LLINELL #1

Daw’r LLINELL o lyfr y Salmau: Oherwydd y mae ef yn gwybod ein deunydd, yn cofio mai llwch ydym. (Salm 103:14).

Dydd Mercher y Lludw: mae’r dydd heddiw yn gyfle i gofio mai llwch ydym, ac i’r llwch y dychwelwn. (Genesis 3:19)

Nid llesol felly mo ymfalchïo gormod yn y cnawd hwn! Er mai Duw a’n creodd; er i Dduw ddod i’n plith, yn gnawd ein cnawd, yn asgwrn ein hasgwrn, darfodedig yw’r cnawd; gwan, gwantan; tros dro ydyw.

Gellid dadlau bod llond llwyed o’r moddion cas yma’n llesol i’r cyflwr dynol; ond mae’r moddion yn llesol dim ond os yw’r presgripsiwn yn gywir!

Ydi, mae Dydd Mercher y Lludw yn gyfle i gofio mai llwch ydym, ac i’r llwch y dychwelwn, ond mae cofio hyn, a dim ond hyn yn brofiad tebyg i ennill wy, a cholli iâr! Dylid cofio mai llwch ydym, a’r cofio hwnnw’n ein gwthio ymlaen at ddiolchgarwch. Pam diolchgarwch? Mae Duw yn caru llwch y llawr. Ohono, fe greodd Duw berson, ac i’r llwch hwnnw anadlodd anadl einioes (Genesis 2:7). Ie, llwch ydym, ac i’r llwch y dychwelwn, ond yn y cyfamser dylem ddathlu fod y llwch hwn yn wrthrych cariad creadigol Duw.

Neges heddiw yw bod angen ymfalchïo mwy, nid llai, yn y cnawd hwn! Ynddo a thrwyddo profwn foddhad a phoen, ac o’r herwydd medrwn ddeall, a gwerthfawrogi boddhad a phoen eraill. Crëwyd ni o lwch y llawr, a llwch y llawr yw cyfrwng datguddiad Duw o’i gariad mawr. Bwriad Duw, nawr fel erioed, yw cael anadlu anadl einioes i’r llwch hwn.

Myn e.e.cummings: Life, for most people, simply isn’t. Os cofio heddiw mae llwch ydym, dylem gofio hefyd i Iesu ddod yn atom er mwyn i bobl gael bywyd, a’i gael yn ei holl gyflawnder (Ioan 10:10).

Mae’n arferiad troi at Salm 51 ar ddydd Mercher y Lludw; da hynny. Da hefyd yw troi at Salm 103: 8-14, a sylwch yn arbennig ar adnod olaf (14).

Trugarog a graslon yw’r ARGLWYDD,

araf i ddigio a llawn ffyddlondeb.

Nid yw’n ceryddu’n ddiddiwedd,

nac yn meithrin ei ddicter am byth.

Ni wnaeth â ni yn ôl ein pechodau,

ac ni thalodd i ni yn ôl ein troseddau.

Oherwydd fel y mae’r nefoedd uwchben y ddaear,

y mae ei gariad ef dros y rhai sy’n ei ofni;

cyn belled ag y mae’r dwyrain o’r gorllewin

y pellhaodd ein pechodau oddi wrthym.

Fel y mae tad yn tosturio wrth ei blant,

felly y tosturia’r ARGLWYDD wrth y

rhai sy’n ei ofni.

Oherwydd y mae ef yn gwybod ein deunydd,

yn cofio mai llwch ydym.

LLIW

Enghraifft o gelfyddyd Anselm Keifer

Mae pob arlunydd yn dewis gweithio gyda rhai lliwiau yn arbennig. Yr hyn sydd yn nodweddiadol am waith yr arlunydd Anselm Kiefer yw diffyg lliw. Mae Kiefer yn dewis gweithio gyda’r lliw llwyd - pob arlliw a gwelwder o lwyd.

Gofynnwyd iddo rywdro i esbonio pam iddo ddewis gweithio yn a thrwy gyfrwng y lliw llwyd, atebodd: The truth is always grey.

Ydi Kiefer yn iawn tybed? A’i llwyd yw lliw'r gwir?

Mae’r arlunydd yn rhannol gywir. Llwyd yw lliw'r gwir amdanom fel pobl. Onid cymysgedd o amwysedd, paradocs a dryswch yw’r natur ddynol? Os felly, llwyd yw lliw'r gwirionedd amdano ac amdanom.

Buasai bywyd cymaint yn haws pe bai’r gwirionedd amdanom yn ddu a gwyn. Ond llwyd ydyw - dulwyd ydyw, llwyd-ddu ydyw; gwynlas, llwydwyn, brithlwyd ydyw. Cwbl ddealladwy felly yw’r dyhead i beintio’r llwyd yn ddu neu’n wyn. Ni wna llwyd y tro.

Mae mwy a mwy o bobl yn mynnu nad llwyd yw lliw'r gwir. Mae mwy a mwy o bobl yn brysur, yn wleidyddol neu’n grefyddol yn peintio’r byd yn ddu a gwyn: ni a nhw, drwg a da. Mae mwy a mwy o bobl yn dewis byw mewn byd du a gwyn. Gwell hynny na straffaglu yn niwl y llwyd.

Cymysgedd o amwysedd, paradocs a dryswch yw’r natur ddynol. Felly, llwyd yw lliw'r gwirionedd amdano ac amdanom - nid du a gwyn. Fe dry pob gwyn yn llwydwyn, ac o dipyn i beth yn llwyd; a phob du yn welwlas, ac yn araf yn llwyd. A hynny’n anorfod oherwydd bod y gwacter, euogrwydd, ac anobaith sydd gymaint rhan o’n byw a’n bod yn llwydo popeth. Llwyd yw lliw'r gwir. Llwyd yw lliw'r gwir amdanom.

Ond lliwgar yw gwirionedd Duw.

Mae’r Grawys yn gyfnod o baratoi i’r Pasg. Dathliad yw’r Pasg o wirionedd lliwgar Duw.  Nid oes gwelwi lliw eirias y gwirionedd bendigedig hwn. Pan ddaeth y Duw byw yn blentyn bach i’n byd, daeth lliw i fyd llwyd. Gyda bywyd Iesu, ei farw a’i fywyd newydd daeth ffydd, gobaith a chariad fel cawod o liw.

Llwyd yw lliw'r gwir, meddai Keifer. Mae’r arlunydd yn rhannol gywir. Gwelodd y gwir am bobl, ond heb weld y gwirionedd am Dduw. Lliwgar yw gwirionedd mawr ein Duw. Mae Duw’n anfodlon ar wirionedd bach du neu wyn neu lwyd. Gwirionedd amryliw enfawr yw gwirionedd Duw. Dyma’r unig wirionedd gwerth cydio ynddo, dyna wirionedd i fyw iddo, gwirionedd i fyw arno.

Os caf aralleirio Ioan: Yn y dechreuad yr oedd lliw, yr oedd lliw gyda Duw, a Duw oedd y lliw ... A daeth y lliw yn gnawd ... gwelsom ei ogoniant ef ...

Boed i bawb ohonom trwy gyfrwng y Grawys hwn dderbyn lliw Duw i’n bywyd o’r newydd. Gallwn fentro wedyn, yn hyderus ein hosgo, ac yn sicr ein cam i hen fyd llwyd a holl liw Duw gennym ar balet ein bywyd, ac yn ein llaw, brwsh ein ffydd, yn barod i beintio’r byd i Dduw.

LLUN

Le Bateau gan Henri Matisse.  

Ar y chwith fel y bwriadwyd y llun i fod gan yr arlunydd. 

Llun gan Henri Matisse yw Le Bateau. Llun twyllodrus o syml yw Le Bateau. Cwch bychan gwyn, ar gefndir gwyn, llonydd a glân; hwyl las, ac adlewyrchiad las ohoni; amlinelliad coch o gymylau, ac adlewyrchiad coch ohonynt. Bu Le Bateau ar fenthyg yn Amgueddfa Celfyddyd Fodern Efrog Newydd yn 1961. Un diwrnod sylweddolodd aelod o’r staff yno fod Le Bateau wedi bod ers i’r llun gyrraedd, 46 niwrnod yng nghynt - a’i ben i waered ganddynt.

Mae Le Bateau yn edrych yn iawn a’i ben i waered. Ond, edrych yn iawn ai peidio, nid a’i ben i waered mae’r llun i fod!

Mae’r Grawys yn gyfnod da i ystyried y pethau hynny yn ein bywyd, sydd yn edrych yn iawn, ond sydd efallai a’i ben i waered. Edrych yn iawn ai peidio, nid a’i ben i waered mae’r pethau hyn i fod!