Bore Sul am 10:30, yn ein Hoedfa Foreol. Gwrthrychau’r sgwrs i’r plant fydd cannwyll a dŵr. Bydd y ddau beth, yn ôl Owain Llyr, yn gyfryngau i ddangos mor bwysig yw cynnal fflam ein ffydd mewn amgylchiadau anodd! Bydd homilïau’r Gweinidog yn ymdrin â Masnach Deg a Gŵyl Dewi. Paul fydd yn ein harwain wrth ystyried Gŵyl Dewi: Ar fy ngwir yng Nghrist, heb ddim anwiredd ... y mae fy ngofid yn fawr, ac y mae gennyf loes ddi-baid yn fy nghalon ... ond ni ellir dweud bod gair Duw wedi methu. (Rhufeiniaid 9:1,2,6) Awn i’r afael â balchder cenedlaethol Paul; gofid cenedlaethol Paul gan orffen gyda meddyginiaeth genedlaethol Paul. Dafydd a diod o ddŵr o bydew Bethlehem fydd yn gymorth i ni wrth ystyried gwerth a phwysigrwydd Masnach Deg. (Ceir y stori’n llawn yn 2 Samuel 23:8-17)
Bore a nos, bydd cyfle i weld arddangosfa o’r amrywiaeth o nwyddau Masnach Deg sydd ar gael gydol Pythefnos Masnach Deg (Chwefror 25 - Mawrth 10)
Yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) byddwn yn parhau â’r gyfres ‘Anghymharol Brydferthwch Crist’. Fe drown at y Gwynfydau, gan ddarganfod yno cyfrinach eglwys leol wirioneddol brydferth ei gwasanaeth a chenhadaeth: o fewn cyfyng furiau’r capel, neuadd fawr wythonglog. Dyma’r ongl gyntaf: Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. (Mathew 5:3) Yn yr eglwys brydferth - eglwys sydd yn llwyddo i amlygu prydferthwch digymar Iesu Grist, nid oes Professional; semi-professional nac amateur. Dim o hynny! Dim ond pobl Dduw yng Nghrist yn ceisio gyda’i gilydd i ddarganfod ac amlygu Duw yng Nghrist. Oedfa Gymundeb fydd hon. Cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint. Ein braint fydd cael derbyn aelodau newydd.
Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00. Bydd naws y Grawys yn datblygu’r wythnos hon ar #BoreolWeddi #HwyrolWeddi @MinnyStreet Ymunwch â ni. Boed bendith yn wir.
PIMS nos Lun (4/3; 19:00-20:30 yn y Festri): Ych! Grawys!
Nos Fawrth (5/3; 19:30-20:30): Y Grawys mewn lliw, llun a llinell dan arweiniad ein gweinidog (yn y festri).