Y GRAWYS MEWN LLUN, LLIW A LLINELL #2

Ychydig eiriau o eiddo’r gantores Gospel byd-enwog, Mahaila Jackson (1911-1972) yw’r LLINELL:

Blues and Gospel music were very close. They had the same origins. They came from the songs of slaves. But Blues were songs of despair and Gospel were songs of hope. Blues leave you empty. Makes you feel like you’ve got nothing left. Gospel shows you a way out of your despair. Tells you not to give up. It was an important lesson for our people. I listened to Blues singers in New Orleans but i vowed i would only sing Gospel. That was my decision.

(History of the Blues, Francis Davis, 2003. Perseus)

That was my decision ... Penderfyniad da! Rhy Blues o lawer yw’n crefydda ni. Y mae’r cyfan yn ddigon gweddus a pharchus, ond yn llwyddo, rywsut, i gladdu llawenydd Gospel Iesu Grist.

Llythyr o ddiflastod Blues y carchar yw Llythyr Paul at y Philipiaid - ond rhannu’r profiad o lawenydd - Gospel - credu yn Iesu Grist mae Paul er gwaetha, neu oherwydd y muriau cerrig a’r barrau dur: ... byddwch chwithau’n llawen meddai Paul (2:18); Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser; fe’i dywedaf eto, llawenhewch (4:4).

'Rydym mewn cyfnod sydd yn drwm o’r Blues. Mae yna drwch o bethau y gellid diflasu o’u herwydd. Ond, nid pobl y Blues mohonom. Pobl Gospel ydym. ... byddwch chwithau’n llawen meddai Paul wrthym (2:18).

LLIW

OREN - ffrwyth. Oren, lliw cotiau’r bobl brysur sy’n gwneud y ffyrdd yn well. Oren sy’n fflamau. Oren y wawr, a machlud haul. Oren dail yr Hydref, oren ymhlith coch a melyn gogoniant diosg y dail. Oren … goleuadau traffig! Oren pabi Calfornia.

Oren y goleuadau traffig i ddechrau. Mae’r Oren rhwng y coch a’r gwyrdd yn arwyddo bod yn rhaid i ni fod yn barod. Barod i fynd, neu barod i ddod i stop. Un o hanfodion ein ffydd yw bod yn barod - yn barod am yr annisgwyl. Mae’r bywyd Cristnogol yn llawn o’r annisgwyl. Pam? Yn syml, oherwydd mai Crist yn gwrthod troi’n Gristnogaeth yw ein Crist ni. Un yn dal i beri syndod yw Iesu o Nasareth.

Mae Oren yn cyhoeddi bod yn rhaid i ni fod yn barod - byddwn barod, yn agored i’r syndod.

Byddwn yn bobl â haenen o Oren Duw ynom, pobl yn barod i dderbyn yr annisgwyl, pobl yn barod i fod yn annisgwyl, i gyflawni’r annisgwyl. Mae Cristnogaeth Gymreig wedi llwydo - peidiodd Duw a’n synnu. Magwyd yn ein plith math arbennig o sinigiaeth - sinigiaeth ysbrydol sydd wedi gosod Duw yn dwt yn ei le. Mae gormod o lawer ohonom yn gweld dim ond bollt y drws, ac wedi anghofio mai ei echel, nid ei follt sy’n gwneud drws yn ddrws. Gyda Duw pob peth sydd bosibl, meddai Iesu.

Os oes ynom amharodrwydd ac anfodlonrwydd i chwilio a cheisio a gwrando, i dderbyn ac ymhyfrydu yn yr annisgwyl sydd wrth wraidd ein ffydd, fe welwn nad oes gennym efengyl o unrhyw werth.

Dyma’r blodyn: Pabi. Pabi Oren California. Blodyn oren trawiadol iawn. Blodyn dygn yw’r Pabi Oren. Chwyn ydyw mewn gwirionedd. Tyfant heb dderbyn gofal, heb wrtaith, heb ddŵr. Tyfant yn y mannau mwyaf annisgwyl; yn y crastir o’u cwmpas mae’r pabi yn drwch o liw. Duw'r annisgwyl yw ein Duw ni, a Duw dygn ydyw hefyd. Duw'r cariad nad yw’r oeri ydyw, Tad y gras nad yw’n lleihau. Fe gyniga i ni gariad; cyfamod er gwaetha’r diffyg gofal a chariad sydd mor nodweddiadol ohonom fel pobl.

Mae gennym Dduw oren, Duw'r annisgwyl. Nid yw pobl yn disgwyl gweld Duw yn y capeli mwyach. Nid ydynt yn disgwyl gweld dim byd newydd gennym. Dibynadwy ydym, gellir ein hanwybyddu’n hawdd gan ein bod ni’n gwneud yr union bethau a ddisgwylir gennym. Mae Oren yn galw arnom i gyflawni’r annisgwyl, i fod ar waith mewn mannau annisgwyl, trwy gyfryngau annisgwyl. Sut? Trwy fod yn ddygn a dyfal. Mynnwn fod yn ddygn fel ein Duw - i ddal ein gafael ar gyfiawnder, brawdgarwch, cymdeithas a llawenydd.

Mae Oren yn galw ar bawb ohonom i wneud yr hyn a allwn i gynnig newyddion da i fyd sydd yn disgwyl dim byd ond newyddion drwg.

Mae Oren yn galw ar bawb ohonom i wneud yr hyn a allwn i ddal ein gafael ar lawenydd y Gospel yng nghanol holl ddiflastod y Blues. Bydd neb yn disgwyl hynny gennym!

LLUN

Dyma Ruby Green Singing (1928) gan James Chapin (1887-1975):

Syllwch ar y llun, syllwch i lygaid Ruby Green a cheisio gweld beth mae hi’n weld, a hithau’n canu mawl i Dduw. Canu wrth ei bodd; enaid meiriol, edifeiriol: dyma’r Gospel! Dyma wefr llawenydd Iesu Grist, llawenydd na all neb ei gymryd oddi arnom.

Mae yna lawenydd - llawenydd y llun hwn - llawenydd sydd yn lletach na’r amseroedd drwg a da; llawenydd sydd gryfach na’n hymdrechion gorau, ac yn ddyfnach na’n methiannau gwaethaf. Llawenydd ydyw sydd yn ein codi pan na fedrwn godi’n hunain; llawenydd na allwn ei berchenogi, ond sydd yn ein perchenogi.