Yn yr Oedfa Foreol (10:30) â ninnau’n derbyn dau yn aelodau o’r eglwys hon, ac un o’n pobl ifanc i gyflawn aelodaeth o Eglwys Iesu Grist bwriad Owain yw nodi rhai o’r rhesymau pam na ddylid gwneud hynny! Bydd ein Gweinidog yn ceisio argyhoeddi’r tri i beidio dod a bod yn aelod o Eglwys Fawr y Crist byw, ac yn rhan o’r eglwys fach leol hon! Dewch â chroeso i ddeall pam.
Oedfa Gymundeb fydd hon. Wrth y bwrdd, cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Cynhelir Ysgol Sul.
Yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) byddwn yn parhau â’r gyfres ‘Anghymharol Brydferthwch Crist’. Y chweched Gwynfyd fydd yn destun sylw: Gwyn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw (Mathew 5:8). I ddarganfod cyfrinach eglwys leol wirioneddol brydferth ei gwasanaeth a chenhadaeth rhaid dysgu gweld â’r galon lân.
Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00. Bydd naws y Grawys yn parhau’r wythnos hon ar #BoreolWeddi #HwyrolWeddi @MinnyStreet Ymunwch â ni. Boed bendith yn wir.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun.
Nos Fawrth (9/4; 19:30-20:30): Y Grawys mewn lliw, llun a llinell dan arweiniad Owain Llyr (yn y festri).
Koinônia amser cinio dydd Mercher (10/4). Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd (11/4; 19:30) dan arweiniad y Parchedig Ifan Roberts yn Minny Street.
Bore Gwener (12/4; 10:00): Llynyddwch. Paned a thrafodaeth wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Elfed ap Nefydd Roberts: Dehongli’r Damhegion (Cyhoeddiadau’r Gair, 2008). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Y Codau o Arian (t.157-161).