Y GRAWYS MEWN LLUN, LLIW A LLINELL #3

Ychydig eiriau o ddechrau Efengyl Mathew yw’r LLINELL:

IMG_0073.PNG

Dyma ddarn bychan o lawysgrif Bezae. Llawysgrif eithriadol bwysig ydyw o’r bumed ganrif. Wedi ei sgrifennu ar felwm, rwymwyd y llawysgrif, fel llyfrau ein cyfnod ninnau, rhwng dau glawr ag ysgrifen y naill ochr a’r llall i’r dudalen. Yn y Groeg a’r Lladin, ceir ynddo’r Efengylau, Actau’r Apostolion a darn bychan bach o Drydydd Llythyr Ioan. Bu llawysgrif Bezae ar gadw’n ddiogel yn llyfrgell prifysgol Caergrawnt ers 1581.  

Gwyddom mai yn Ffrainc y paratowyd y llawysgrif, gan iddo am ganrifoedd lawer, gael ei gadw mewn llyfrgell yno. Ni wyddom enw’r hwn a fu’n ddygn a dyfal yn gweithio arno. Mae enw’r mynach hwnnw wedi hen ddiflannu i blygion hanes. Pwy bynnag ydoedd, buasai wedi ystyried ei grefft yn alwad; ei gywirdeb yn wasanaeth i Dduw. Gwaith llethol manwl ydoedd, â’r pwyslais nid ar gyflymdra, ond ar gywirdeb, cywreinrwydd a chynildeb. Ym mhlyg dros ei ddesg, bu’r mynach hwn, o awr i awr, o ddydd i ddydd yn araf gywir gopïo’r testun hyd nes iddo orffen, ac wedi gorffen, dechrau o’r newydd ar lawysgrif newydd.

Mae’n hawdd anghofio pwysigrwydd gwaith y dynion hyn, a bod eu byw wedi troi ar echel eu crefft. Dylid hefyd gofio mae peth eithriadol ddrud oedd felwm yn y cyfnod hwnnw, ac o’r herwydd, ‘roedd y sgrifellwyr yn eithriadol ofalus ohono; mae tystiolaeth o’r ffaith iddynt grafu inc oddi ar y felwm er mwyn cael ei ailddefnyddio. Datblygiad eithriadol bwysig, ac mae’n siŵr tra chynhyrfus yn y cyfnod, oedd medru ysgrifennu’r ddwy ochr o dudalen. Er mwyn cael gwneud y defnydd orau, llawnaf o’r felwm, buasent yn hepgor pob atalnodi, a hefyd yr holl fylchau rhwng y geiriau; ond, buasent hefyd gadael gofod wag sylweddol ei faint yn ymyl i’w gwaith. Pam? I alluogi amser a’i ddifrod wneud ei waethaf, heb fedru cyrraedd at y testun. Cyfrwng arall i arbed gofod oedd talfyrru, ac fe dynnwyd llinell uwchben y geiriau a dalfyrrwyd. Sylwch:

IMG_0078.PNG

Dyma dalfyriad o Kata Mathaion: Yn ôl Mathew. Nawr, fe allech ddweud fod gollwng y 'a' ar derfyn kata yn fawr o dalfyriad! Ond, ‘roedd pob arbediad yn arbediad o werth!

Wrth ddarllen ymlaen i’r llinell olaf, fe welwch linell uwchben y llythrennau sydd yn ymddangos fel IHC. Llythrennau cyntaf yr enw Iesu yn y Groeg, - iota, êta a’r sigma. Talfyriad parchus o enw Iesu ydyw.

Gwelir IHS yn aml mewn eglwysi, ac ar brydiau yn orchudd dros bulpud anghydffurfiol. Awgrymir mai ystyr yr IHS oedd In His Service; myn rhai wedyn fod IHS yn golygu I have Suffered. Neu efallai mai Iesus Homium Salvator  yw IHS. Er mor briodol y dehongliadau hyn, cwbl anghywir ydynt bob un!

Wrth weld IHS cofiwn am y mynach hwnnw ymhlyg dros ei ddesg yn yr ysgrifdy; mae’n fore, cynnar, oer - fe chwyth i’w ddwylo i’w cynhesu - cyn gosod ei bluen yn yr inc, ac wrth grafu llinell gyntaf, fe gofia am gariad mawr ei waredwr: ‘does enw i’w gael o dan y nef/yn unig ond ei enw ef. (William Williams, 1717-91. CFf.312).

Dyledus ydym i’r mynach hwnnw a’i debyg. Mae cenedlaethau’n dibynnu arnom ninnau hefyd i wneud yr hyn a wnaethpwyd ganddo: cofnodi, cynnal a throsglwyddo hanfod ein ffydd: IESU.

LLIW

Shahrbanu Mozandarani

Shahrbanu Mozandarani

INDIGO - lliw’r tywyllwch. Yn ôl, ym mis Ionawr 2004 bu daeargryn erchyll yn Iran. Claddwyd Shahrbanu Mozandarani o dan y rwbel a’r annibendod mawr a adawodd y daeargryn ar ei ôl yn ninas Bam. Am wythnos, yn y tywyllwch, bu Shahrbanu Mozandarani ar goll o dan bentwr adfeilion ei chartref. ‘Roedd Shahrbanu Mozandarani ar y pryd yn nawdeg wyth mlwydd oed. Fe’i darganfuwyd yn adrodd barddoniaeth a phenodau o’r Koran. Dyma, yn anad dim arall a’i cynhaliodd am wythnos yn y tywyllwch - adrodd penillion ac adnodau. Wrth ystyried profiad Shahrbanu Mozandarani, ystyriwn hefyd beth tybed a fuasai yn ein cynnal ni pe bawn wedi ein claddu’n fyw am wythnos?

A oes ryw bethau sydd wedi eu plannu mor ddwfn ynom, wedi eu cerfio mor annileadwy ar lechen ein cof a fuasai yn ddigonol i’n cynnal a’n cadw yn fath sefyllfa erchyll?

Nid tywyllwch gwaelod y môr, na thywyllwch pendraw’r gofod sydd wir angen i ni eu darganfod, dylem yn hytrach blymio dyfnderau dyfnaf y bersonoliaeth. Yn nyfnder ein dyfnder, yn nyfnion ein cymeriad cedwir y pethau - y geiriau a’r atgofion - na ellir byth ei dileu. Dyma drysor ein bywyd. Dyma nerth i’n cynnal, dyma obaith i’n cadw. Heb yn wybod i ni mae profiadau mawr bywyd a geiriau’r Bywyd yn suddo i lawr i’n hisymwybod ac yn setlo yno, yn aros hyd nes bod galw amdanynt.

Mae INDIGO yn galw ar bob perchen ffydd i blymio lawr i’w ddyfnder nawr ac yn y man, i wneud yn siŵr fod popeth a fydd angen arnom mewn argyfwng yn ddiogel ac yn ei le yno. Neges INDIGO Duw yw dylai pawb ohonom fod yn ofalus iawn o’r geiriau a’r profiadau sy’n cael eu trysori yn nyfnion tywyll y bersonoliaeth.  Fel Shahrbanu Mozandarani, ni wŷr neb ohonom pryd y bydd y trysorau hynny’n troi’n olau mawr yng nghanol y tywyllwch.

LLUN

Dyma The Last Supper 1 (1995) gan Faisal Abdu’Allah (g.1969).

Pan ddaeth yr awr, cymerodd ei le wrth y bwrdd, a’r apostolion gydag ef . (Luc 22:14).

Pan ddaeth yr awr, cymerodd ei le wrth y bwrdd, a’r apostolion gydag ef. (Luc 22:14).

Dylid dechrau gyda’r amlwg: mae’r gwaith hwn yn seiliedig ar gampwaith Leonardo da Vinci (1452-1519): Il Cenacolo - Y Swper Olaf (1494-1498; Santa Maria delle Grazie, Milan) Portreadir Gwledd y Pasg gyda’r Disgyblion, a sefydlu Swper yr Arglwydd (Mth.26:26-30; Lc. 22:7-14; Mc.14:22-26; Ioan 13:21-30; 1 Cor.11:23-25).

Mae Faisal Abdu’Allah yn ail greu llun da Vinci, gyda throad annisgwyl; mae’r troad hwnnw - fel pob troad gwir annisgwyl - yn ysgwyd dyn. Portreadir Iesu a’i ddisgyblion, nid fel gwynion Gorllewinol, ond fel pobl o dras a diwylliant Dwyreiniol.

Awn i’r afael â hyn.

Sylwch, yn gyntaf, ar natur du a gwyn y llun. Torrir y llun, mwy neu lai, yn ei hanner: pedair mewn gwisgoedd tywyll ar y chwith, â saith disgybl, gydag Iesu, mewn gwyn i’r dde. Mae’r hollt yn llawer rhy amlwg i fod yn anfwriadol. Mae Faisal Abdu’Allah yn amlygu’r tueddiad anffodus i hollti bywyd yn ddu a gwyn; y gwych a’r gwachul, ac o’r herwydd i labeli person, crefydd neu ddiwylliant yn dda, neu’n ddrwg. O’r herwydd, crëir a chynhelir yr hollt rhwng ‘Ni’ a ‘Nhw’. Mae crefydd, y cwbl ohoni, mewn newid ‘Nhw’ am ‘Ni’. Peth ffug yw crefydd cyd ag y bo yn fater o ddiogelu ‘Ni’ rhag gorfod cwrdd â ‘Nhw’. Gyda ‘Nhw’ yn unig, y down ‘Ni’ i adnabod Duw. Fel meddai Thomas Merton (1915-1968): Love is our true destiny. We do not find the meaning of life by ourselves alone - we find it with another.

Sylwch, wedyn ar wisgoedd y ‘disgyblion’. Mae’r gynau gwynion yn awgrymu mae deiliad y grefydd Islam yw’r rhain (nid bob un ohonynt o reidrwydd, ond y mwyafrif). Credaf, fod Faisal Abdu’Allah yn awgrymu fod gennym, fel pobl ffydd, er waetha’r hyn oll sydd yn wahanol amdanom, un peth yn gyffredin: ein pwyslais ar ddaioni cariadlawn Duw. Y gwirionedd mawr? Gwirionedd ydyw a welsom yn Iesu: Cariad yw Duw. Celwydd y popeth a wneir, pregethir, leferir, a gedir sydd yn groes i hyn.

Mai gwisgoedd y ‘disgyblion’ - gwryw a benyw - yn amlygu amrywiaeth eu tras ethnig ac argyhoeddiad crefyddol. Eto, fel yr hollt rhwng du a gwyn, mae’r amrywiaeth mor amlwg yn llun, nes awgrymu fod gan yr arlunydd neges i’w gyfleu drwyddo. Nid athrawiaeth uniongred na chyfundrefn grefyddol unlliw yw cynnyrch arbennig ffydd yn Nuw, ond person o ffydd: hwnnw a honno sy’n dylanwadu ar gymdeithas ac ar y byd. Yn wyneb eithafiaeth grefyddol, yr unig Dduw y mae pobl bellach yn mynd i wneud cyfrif ohono yw’r Duw a welant ynom ni, ac yn ein ffordd o ymwneud ag eraill. Nid oes ‘Cristnogaeth’ yn bodoli, nac ychwaith ‘Iddewiaeth’ a ‘Mwslimiaeth’. Mae abstract nouns yn eithriadol beryglus! Cristnogion, Iddewon a Mwslimiaid sydd yn bodoli - does dim byd yn abstract am bobl ffydd, a’u cyfraniad; hwynt hwy yw gobaith byd.

Arwain hynny ar y peth olaf. Yng ngwaith da Vinci, gwelir deuddeg o ddynion, ag Iesu yn y canol: 13. Mae Jwdas yn bresennol. Yn The Last Supper 1 gan Faisal Abdu’Allah dim ond un disgybl ar ddeg sydd, ag Iesu yn y canol: 12. Mae Jwdas eisoes wedi mynd allan i’r nos (Ioan 13:30). Pwy felly yw’r hwn a gwn yn ei law? Ynglŷn ag ateb y cwestiwn hwnnw, holed pob un ef ei hun.