• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

April 12, 2019 Owain Evans

Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (14/4 am 9:30 yn y Festri). Ystyriwn arwyddocâd Sul y Blodau a gorffen dysgu Gweddi’r Arglwydd yn iaith y byddar. Bydd cyfle i gyfrannau nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y dydd a bydd brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.

Yn yr Oedfa Foreol (10:30) byddwn yn parhau â’r gyfres ‘Anghymharol Brydferthwch Crist’. Fe drown at yr olaf ond un o’r Gwynfydau, gan ddarganfod yno cyfrinach eglwys leol wirioneddol brydferth ei gwasanaeth a chenhadaeth: o fewn cyfyng furiau’r capel, neuadd fawr wythonglog. Dyma’r ongl nesaf: Gwyn eu byd y tangnefeddwyr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw (Mathew 5:9). Mae tangnefeddwyr yn golygu’r rhai sy’n creu tangnefedd, pobl sydd yn cynnal cymod a chytgord. Oherwydd hynny mae Owain yn awgrymu’r darlleniad Gwyn eu byd y tangnefedd-wneuthurwyr: plant Duw ydynt yn efelychu Mab Duw.

Yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) byddwn yn gorffen y gyfres ‘Anghymharol Brydferthwch Crist’. Y gwynfyd olaf fydd yn destun sylw: Gwyn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. (Mathew 5:10). Awgryma Owain fod yr eglwys brydferth mewn siâp octagon, ac oddi fewn i’r octagon mae croes. Gellid gweld Mynydd y Groes o dop Mynydd y Bregeth. Y groes yw’r gwynfydau, y gwynfydau yw’r groes. Os am wybod rhagor, dewch â chroeso.

Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00. Bydd naws y Pasg yn datblygu’r wythnos hon ar #BoreolWeddi #HwyrolWeddi @MinnyStreet Ymunwch â ni. Boed bendith yn wir.

Ein braint pnawn Sul (14:30), fel eglwys, fydd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.

Dydd Llun (15/4): Taith Gerdded ym Mharc Gerddi Waterloo, Penylan (manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul)

Nos Fawrth (16/4; 19:30-20:30): Y Grawys mewn lliw, llun a llinell dan arweiniad Owain Llyr (yn y festri).

Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd: Dydd Gwener y Groglith (19/4; 14:00). Oedfa’r Groglith yn Eglwys Dewi Sant dan arweiniad Y Parchedig Dyfrig Rees (Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr). 

← Y GRAWYS MEWN LLUN, LLIW A LLINELL #4Y GRAWYS MEWN LLUN, LLIW A LLINELL #3 →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021