Bendith ... Bendithio ... Bendithion (Numeri 6: 22-27)
Gall geiriau golli’u hystyr gydag amser ... mae ‘bendith’ yn un ohonynt. Mawr iawn yr agendor rhwng ystyr ac arwyddocâd y gair ‘Bendith’ yn y Beibl ac arwyddocâd ac ystyr y gair yn ein siarad dyddiol. Rhyfeddod ymwneud Duw â phobl, ac ymwneud Pobl Dduw gyda'i gilydd ac ag eraill yw ‘Bendith’ yn y Beibl; bellach, ymateb i disian ydyw! Pe byddem yn oedi yn fwy cyson i ystyried yn fyfyrgar ’Bendith’, ac i gofio’n weddigar ein ‘Bendithion’, byddem yn gweld a deall fod llawer o ‘Fendith’ ar hyd lle.
Mae Beibl yn drwm o ‘Fendith’. Bwriad Duw, o’r cychwyn, oedd ‘Bendith’, ‘Bendithio’ a ‘Bendithion’. Yn Genesis bendithia Duw'r cyfan oll a greodd: A gwelodd Duw fod yn hyn yn dda (Genesis 1:25). Trown at hanes Jacob ac Esau (Genesis 27:1-17). Esau oedd ffefryn ei dad, a Jacob, ei fam. Fel y mab hynaf, eiddo Esau oedd bendith ei dad, ond gyda chymorth ei fam llwyddodd Jacob i sicrhau’r fendith. Collodd Esau'r cyfan; enynnwyd ei ddicter a chyffrowyd ei gynddaredd (Genesis 27: 41). Pan fedyddiwyd Iesu, bendithiwyd ef gan Dduw: Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu (Luc 3:22b). Bu’r ‘Fendith’ hon yn gynhaliaeth gyson i Iesu. Yn ei grym camodd dros y ffin rhwng marw a byw, ac, ymhen tridiau, dychwelyd o farw’n fyw. Yn ein hoedfaon yn Eglwys Minny Street defnyddir bendith Llyfr Numeri. Mor rymus y fendith hon nes peri i’r awdur nodi: Dyma’r Arglwydd yn dweud wrth Moses, "Dwed wrth Aaron a’i feibion mai dyma sut maen nhw i fendithio pobl Israel." (Numeri 6: 22 - 23). Cymaint y fendith fel mai dim ond Aaron a’i feibion (Offeiriaid y Bobl) oedd i fendithio’r bobl. Onid Y Fendith Apostolaidd yw’r peth olaf a ddigwydd mewn oedfa? Yn bwysicach na’r bregeth, gyda’r ‘Fendith’ cyflwynir pobl Dduw i ras, cariad a chymdeithas y Drindod. O adael oedfa, er gwahanu, erys y gynulleidfa, yng ngrym y fendith, yn un yng ngras, cariad a chymdeithas Duw.
Yn y llyfr Gilead (Marilynne Robinson (gan. 1943); Cyh.: Farrar, Straus & Giroux; 2004) mae’r Parchedig John Ames yn diolch am y cyfle a ddaw yn sgil ei waith fel gweinidog i fendithio pobl, ond, meddai: "... you don’t have to be a minister to confer blessing. You are simply much more likely to find yourself in that position. It’s a thing people expect of you." Gwaith i bawb yw ‘Bendithio’. Eiddo Duw'r ‘Fendith’. Cawn ein ‘Bendithio’ gan Dduw, a’i obaith yw y byddwn ninnau yn estyn y fendith ymlaen. Cyfryngau ydym i ‘Fendith’ y Bendithiwr mawr.
Pam nad ydym mwy parod i estyn bendith i eraill? Ai am ein bod wedi anghofio mai bendith sydd ei hangen arnynt? Onid cyngor, cyfarwyddyd, amynedd ac amser sydd ei angen ar blant? Cymorth a chefnogaeth, amser ac amynedd ar rieni? Gwrandawiad, amser a phaned ar gyfaill? Oes, mae angen pecyn bwyd ar ymwelwyr y Banc Bwyd, cyngor ymarferol a chymorth parod ar geiswyr lloches, a phaned, brechdan a ffrwyth ar y digartref, ond mae angen ‘Bendith’ hefyd. Tueddwn i gymryd yn ganiataol y gwyddom beth sydd ei angen ar y rheini o'n cwmpas; gallwn fod yn ddall i’r ffaith eu bod yn dawel ddyheu am ein bendith. Neu, ai am nad ydym yn ei hoffi! Haws melltithio ambell un na’i bendithio! Mynnai’r awdures Harper Lee (1926-2016) fod pobl De Unol Daleithiau’r Amerig yn cyfiawnhau dweud fel ag y mynnont am rywun ond iddynt ychwanegu’r cymal: "Bless his/her heart". Oni wnawn ninnau hyn yn y Gymraeg? - Bendith arno/arni. Deisyf ar Dduw i fendithio person gan, ac oherwydd, na fedrwn ni ei wneud! Yr un dynamig sydd ar waith wrth ofyn am faddeuant. Gallwn ofyn i Dduw faddau i’r sawl yr ydym ni yn ei chael hi’n anodd maddau iddynt. Gwna Duw'r hyn na fedrwn: maddau, caru a derbyn.
Weithiau, cawn gip olwg ar ryfeddod cariad Duw trwy i ni gael bod yn gyfrwng i’r cariad rhyfeddol hwnnw.
Mae estyn ein bendith i eraill yn anodd, ond wrth estyn bendith, daw bendith.
Mae’r sawl a fendithiwyd a’r sawl a fendithiodd yn ymdeimlo â Duw.