‘Women Arriving at the Tomb’ He Qi (gan.c.1950)
‘Women Arriving at the Tomb’ He Qi (gan.c.1950)
O hirbell, gwylia rhai o’r gwragedd a fu wrth y Groes ... yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Joses yn edrych ym mhle y gosodwyd ef (Marc 15: 47 BCN). Gwylient gyda phwrpas - eu bwriad oedd dod i eneinio’r corff. Amhosibl oedd dod y dydd dilynol gan mai Sabath oedd. Deuant felly’n blygeiniol y dydd cyntaf o’r wythnos: Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome (Marc 16:1 BCN). Eu gofid mawr oedd pa fodd y gallent dreiglo’r maen. Ofer eu gofid. Wedi cyrraedd, gwelsant y maen wedi’i dreiglo, ond bu hynny achos gofid newydd - ‘roedd y bedd y wag. Dyma destun sylw'r arlunydd o Tsiena (bellach yn byw yn yr UDA), He Qi. Er mor lleddf y sefyllfa mae’r llun yn lliwgar a llon. Mae’r tair yn syllu i’r bedd. Mae’r bedd yn wag, ond nid yn ddifywyd - sylwch ar y lili wen. Symbol traddodiadol o’r Pasg yw'r lili. Fel hyn mae’r bardd Louise Lewin Matthews yn mynegi’r peth:
Easter morn with lilies fair
Fills the church with perfumes rare,
As their clouds of incense rise,
Sweetest offerings to the skies.
Stately lilies pure and white
Flooding darkness with their light,
Bloom and sorrow drifts away,
On this holy hallow’d day.
Llai cyfarwydd efallai, yw’r cysylltiad ag addewid Duw trwy Hosea broffwyd: Iachâf eu hanffyddlondeb: fe’u caraf o’m bodd, oherwydd trodd fy llid oddi wrthynt. Byddaf fel gwlith i Israel; blodeua fel lili a lleda’i wraidd fel pren poplys. (Hosea 14: 4,5 BCN). Mae’r lili hefyd yn symbol traddodiadol o burdeb. Gellid awgrymu felly bod y lili yn gyfrwng i gyfleu presenoldeb y dyn ifanc a gwisg laes wen amdano (Marc 16: 5 BCN); hwnnw sydd yn dweud wrthynt: "Peidiwch ag arswydo. Yr ydych yn ceisio Iesu ... nid yw yma ... (Marc 16:6 BCN). Tu ôl iddynt mae pili-pala: Y mae’n mynd o’ch blaen chwi i Galilea ... (Marc 16:7 BCN).
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen
(OLlE)