Mae’r ddaear yn glasu,
A’r coed sydd yn tyfu,
A gwyrddion yw’r gerddi:
Mae’r llwyni mor llon.
(John Howel)
Croesawyd y Mis Mwyn ag Oedfa Deuluol llawn hwyl a bendith. Yn sŵn y Salm (130:5;6) a’r weddi sy’n gweddu i bawb - F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf - derbyniwyd adnodau’r oedolion. ‘Llawenydd’ oedd y thema heddiw, a braf oedd gweld cynifer o oedolion ag adnod ar ein cyfer. Gwêl ein plant mai rhywbeth i dyfu iddo, nid tyfu ohono yw dysgu a rhannu adnod.
Mali oedd yn arwain y defosiwn heddiw. Dilyn ymlaen wnaeth Mali o ddefosiwn y Sul aeth heibio, gan sôn am Farathon Llundain, ac am bwysigrwydd dal ati i ddal ati mewn ffydd, gobaith a chariad.
Gwahoddwyd y plant ymlaen i’r Set Fawr, â hwythau’n nawr yn cael cyfle i rannu adnodau.
Echel yr Oedfa oedd y rhif ‘9’; a’r dasg gyntaf oedd chwilio yn ein Beiblau am Galatiaid 5:22: ... ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch; caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth.
Ond, cyn troi at y 'ffrwyth', mynnai’r Gweinidog fod angen ystyried ychydig ar waith yr 'Ysbryd'!
Awgrymodd ein Gweinidog fod yr Ysbryd Glân yn NERTH i ni (Effesiaid 3: 16 a Luc 24: 49). Er mwyn amlygu hyn, ‘roedd ganddo ... 'AirZooka'!
'Pobl Dduw' yn yr 'AirZooka'!
Gosododd y plant peli bychain amryliw - rhain oedd pobl Dduw, pobl lliw a llun, sut a siâp o bobl - yn yr 'AirZooka', ac yna 'saethu' y teclyn a'r peli bychain felly'n drybowndian i bob cyfeiriad (truan â’r gofalwr!). Yn nerth yr Ysbryd Glân, meddai'r Gweinidog, aeth pobl Dduw, ac fe ant o hyd, i bob cyfeiriad i sôn am gariad mawr Duw.
Mae’n debyg fod un o’r peli bychain hyn wedi cyrraedd yr oriel!
Hanfod ail neges y Gweinidog am yr Ysbryd Glân oedd bod yr Ysbryd yn ein harwain i’r gwirionedd (Ioan 14:13). Mae Ysbryd Duw yn ARWAIN. Ffurfiwyd timau o bedwar neu bump i’r cwis; ac i’r cwis hwnnw, ‘roedd 9 cwestiwn! Dyma ambell un:
- Pa lythyren sydd ar goll? A ... B ... ___ ... D ... E?
- Pa flwyddyn yw hi?
- Beth yw ‘MICE’?
Dyma’r atebion:
- Nid 'C' ond 'G' - Gamma yn y wyddor Roegaidd.
- Nid 2016 ond 5776 yn ôl y Calendr Iddewig, neu 1437 i’r Mwslim.
- Nid llygod, ond Members of the Institution of Civil Engineers.
Mynnai’r Gweinidog nad oes neb o bobl Dduw yn gwybod yr atebion i gyd! Ychwanegodd fod siawns dda gennym - gyda’n gilydd - i ffeindio’r ateb. Mae’r Ysbryd Glân yn ein harwain - gyda’n gilydd - at y gwirionedd.
Wedi hyn fe ddaethom, o’r diwedd, at naw Ffrwyth yr Ysbryd! Man cychwyn yr homili oedd y cwestiwn: ‘Pam nad oedd Paul wedi sôn am 'Blodau’r Ysbryd'?’ Wedi’r cyfan mae blodau’n hyfryd, lliwgar a phersawrus.
Er braw i’r Gynulleidfa, mynegodd Owain ei fwriad i baratoi danteithion i’w cynnwys ar stondin gacennau ein ‘Dewch a Phrynwch’ er budd Cymorth Cristnogol (14/5). Ei fwriad, meddai oedd paratoi marigold meringue pie; cacen chrysanthemum; tarten fuschia a bisgedi aster, teisen gaws cennin Pedr, a chan gydnabod nad cacen mo treiffl: treiffl lupin a delphinium. Dyna pam mae Paul yn sôn am Ffrwyth yr Ysbryd! Mae blodau’n hyfryd a phersawrus, a buasai bywyd yn ddiflas hebddynt, ond mae ffrwythau’n ddefnyddiol! Gellid bwyta ffrwyth, a derbyn maeth ohono. Nid blodau mo cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanddisgyblaeth. Ffrwyth ydynt - ffrwyth i’w bwyta! Nid y dweud, ond y gwneud sydd bwysig. Rhaid i gariad, llawenydd, tangnefedd a goddefgarwch fod yn ffordd o fyw, fel y gwelir caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunan-ddisgybliaeth ar waith ynom, trwom a rhyngom.
Yn ei bregeth heno bu’r Gweinidog yn trafod Bendith ... Bendithio ... Bendithion. Defnyddir eleni y Fendith fawr o lyfr Numeri (6:22-27) yn ddiweddglo i’n hoedfaon, a honno oedd testun y bregeth. Gan fod cofnod o’r bregeth eisoes ar y wefan, dyma ychydig sylwadau ein Gweinidog wrth Fwrdd y Cymundeb. 'Roedd y sylwadau’n adleisio a chadarnhau neges y bregeth: Gwnaf di’n genedl fawr a bendithiaf di; mawrygaf dy enw a byddi’n fendith (Genesis 12:2).
Dyma addewid Duw i Abram, y cawr hwnnw ymhlith enwogion yr Hen Destament. Gwireddwyd yr addewid; fe aeth ei deulu yn genedl gref. Sylwch, ar y rhan hon o’r addewid: bendithiaf di ... a byddi’n fendith. Duw yn rhoi bendith, ac Abram yn rhoi bendith. Yr un fendith yn cael ei hestyn ymlaen ... bendithiaf di - Abram yn cael bendith; er mwyn ei hestyn ymlaen at eraill ... a byddi’n fendith. Afon redegog yw bendith Duw nid llun llonydd. Down ynghyd i bob Oedfa gyda diolch am y fendith, a gyda’r bwriad o estyn y fendith ymlaen: bendithiaf di ... a byddi’n fendith.
Wrth Fwrdd y Cymundeb, cawsom gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint. Aeth y Cymun Teithiol heno, gyda’n cofion anwylaf, at Nansi.
Diolch am amrywiol fendithion y dydd heddiw. Boed i ni dyfu yn ffrwythau’r Efengyl, i ymhyfrydu ym mendith ein Duw, i dystio iddo, ac i estyn y fendith honno i eraill.
Yng nghanol y cyfan oll, fe lwyddodd ein Gweinidog y gynnal Oedfa yng Nghanada heddiw! Deisyfwn wenau Duw ar ffyddloniaid, a Gweinidog Eglwys Dewi Sant, Toronto, y Parchedig Anne Hepburn. Boed bendith ar ei hymdrechion i ddefnyddio'r cyfryngau diweddaraf i sicrhau parhad ei gweinidogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. www.dewisant.com
Gan edrych ymlaen at y Sul nesaf: Owain fydd yn arwain y ddwy Oedfa foreol. Apêl Cymorth Cristnogol eleni fydd thema’r Oedfa Foreol Gynnar. Byddwn yn yr Oedfa 10:30 yn parhau â'r gyfres o bregethau 'Efengyl Marc a’r Flwyddyn 70'. Ein braint, pnawn Sul am 2:30 yw gweini te i’r digartref yn y Tabernacl, Yr Âis. Liw nos, am 6; byddwn yn ymuno yng Ngŵyl Bregethu Eglwys y Crwys: pregethir gan y Parchedig Megan Williams (Ynys Môn). Ni fydd Oedfa Hwyrol ym Minny Street.