Mawr ein braint heddiw - daeth ymwelwyr yn drwch; amryw o’r bobl ifanc hŷn adref yn ôl, y gerddorfa ynghyd, a’r plant a phlantos yn eu gwisg Cymraeg, heb anghofio un Batman bychan. Sul ‘dod ynghyd’ yw Sul y Fam. Yn sŵn Salm y Sul (Salm 108:1-5), ac adnodau’r oedolion (y thema heddiw oedd ‘Cenedl’) daeth Mari Fflur i’r pulpud i arwain ein defosiwn. Wedi darllen detholiad o bennod olaf Llyfr y Diarhebion (beibl.net): Gwraig Dda; offrymwyd y weddi gyfoethog hon:
"Wrth ddod at ein gilydd y bore ‘ma diolchwn i ti Dduw am bob menyw dda - boed yn fam, yn fam-gu, yn fodryb, yn chwaer neu’n ffrind.
Ar Sul y Mamau, diolchwn i ti am y FAM DDAEAR - y fam sy’n rhoi adnoddau naturiol, byd natur a bywyd gwyllt i ni.
Yng ngeiriau Rhys Nicholas (1914-1996):
Ffurf a lliw y coed a’r blodau,
ffrwythau’r ddaear i bob un,
holl fendithion y tymhorau,
dyna roddion Duw ei hun.
Diolchwn i ti am ein MAMWLAD - Cymru- y fam sydd wedi rhoi cymoedd y de, traethau’r gorllewin a mynyddoedd y gogledd i ni.
Dysg imi garu Cymru,
ei thir a’i bröydd mwyn,
rho help im fod yn ffyddlon
bob amser er ei mwyn …
Diolchwn i ti am ein MAMIAITH - y Gymraeg - y fam sydd wedi rhoi rhythmau ac acenion i’n gwneud ni yn arbennig a’n helpu i fwynhau ein diwylliant gwerthfawr.
O! dysg i mi drysori
ei hiaith a’i llên a’i chân
fel na bo dim yn llygru
yr etifeddiaeth lân.
Diolchwn i ti am y FAM EGLWYS - y fam hon a roddodd arweiniad i aelodau cyntaf Minny Street agor drysau’r eglwys hon i ni gael addoli yma.
Ymhob dim, y fam ddaear, ein mamwlad, ein mamiaith a’r fam eglwys, rhown ddiolch.
Rhown yn awr ein diolch iti
am y rhoddion ddaw o hyd;
dan dy fendith daw haelioni
a llawenydd i’r holl fyd. Amen."
Ag yntau wedi derbyn adnodau’r plant, fe’u hanfonwyd yn ôl i eistedd, oherwydd gwyddai'r Gweinidog y buasai angen cymorth y plant ar weddill y gynulleidfa. Paratowyd chwilair ar ein cyfer. Y gamp oedd chwilio am y geiriau, a’u dileu yn llwyr. O’u dileu yn llwyr, mynnai Owain, y buasai neges bwysig yn dod i’r amlwg. Rhowch gynnir arni!
Y neges gudd? Mae ein Duw yn caru ti a fi fel mam.
Wedi troi’r daflen waith drosodd, dyma adnodau o’r Beibl yn brawf fod Duw yn ein caru fel mae mam yn caru ei phlant.
Fel y cysurir plentyn gan ei fam byddaf fi’n eich cysuro chwi. Eseia 66:13.
Oherwydd da yw’r Arglwydd; y mae ei gariad hyd byth Salm 100:5.
Fe mhlentyn, paid â diystyru disgyblaeth yr Arglwydd Diarhebion 3:11.
Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni, yn gymorth parod mewn cyfyngder. Salm 46:1
Duw ei hun fydd yn darparu ... Genesis 22:8a
Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch 1 Pedr 5:7.
Bydd yr Arglwydd yn dy arwain bob amser Eseia 58:11a.
Hyfforddaf fi a’th ddysgu yn dy ffyrdd ... Salm 32:8a.
Clyw, O Arglwydd, fy ngweddi, a gwrando arnaf Salm 86:6.
Os yw Duw yn dilladu felly y glaswellt ... gymaint mwy y dillada chwi Luc 12:28.
Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac felly ef faddeua inni ein pechodau ... 1 Ioan 1:9a.
‘Roedd yr ail weithgarwch yn dipyn o ryfeddod! ‘Roedd ein Gweinidog, meddai, yn mynd i dynnu 6 llun, a’r gamp oedd dyfalu pan un o’r adnodau uchod a bortreadir yn y llun. ‘Roedd 'na deimlad fod hyn braidd yn uchelgeisiol, ond wir, mewn byr amser ‘roedd y llun cyntaf yn barod - mam yn cofleidio’i phlentyn. Gwelwyd y cysylltiad yn ddi-oed: Fel y cysurir plentyn gan ei fam byddaf fi’n eich cysuro chwi. Eseia 66:13. Tybed, a fedrwch ddyfalu pa adnod sydd gydiol wrth y llun isod?
‘Roedd ‘na chryn syndod fod ein Gweinidog yn gystal arlunydd, ond ‘roedd y plant a’r bobl ifanc - sydd wedi hen arfer â giamocs Owain Llyr - yn gwybod fod amlinelliad pob llun eisoes ar bob dalen bapur!
Cafwyd hwyl, cydweithio, cyd-ddysgu; pawb ohonom, o’r ieuengaf i’r hynaf, ffyddloniaid ac ymwelwyr wedi derbyn o fendith y cyd-addoli. Gorffennwyd yr Oedfa gyda derbyn Siwan i freintiau a chyfrifoldeb aelodaeth o Eglwys Iesu Grist yn Minny Street.
Bu parhad i’r hwyl a’r gymdeithas dros baned, pice ar y maen, a nwyddau Masnach Deg yn festri. Diolch i bawb a fu ynglŷn â’r trefnu.
Bu amryw yn awyddus i droi am adref gan mae tri o aelodau eglwys Minny Street fu’n gyfrifol am lunio a chyflwyno Oedfa Radio Cymru. Mawr ein diolch am y cyfle i’w pharatoi. Hyderwn y bu’r cyfan yn fendith ac yn gysur. http://www.bbc.co.uk/programmes/b072rrv7
Liw nos, bu parhad o’r gyfres o bregethau’r Grawys: Ffydd a Thrais. Echel y bedwaredd bregeth hon oedd y cysylltiad rhwng terfysgaeth ryngwladol a thlodi byd-eang. Yn 2002, mynnai’r Arlywydd George W. Bush (gan.1946): We fight against poverty because hope is ân answer to terror. Yn 2014, mynnai’r Arlywydd Barack Obama (gan.1961): ... we will expand our programs to support entrepreneurship, civil society, education and youth - because, ultimately, these investments are the best antidote to violence. Mae’r naill Arlywydd a’r llall yn gytûn fod yna gysylltiad rhwng tlodi byd-eang a therfysgaeth ryngwladol.
We fight against poverty...
... ultimately, these investments are the best antidote to violence.
Gobaith yn ateb i derfysgaeth, yn wrthwenwyn i drais. Sut mae gobaith yn ateb i derfysgaeth, ac yn wrthwenwyn i drais? Aethom i’r afael â hyn drwy gyfrwng Dameg y Dyn Cyfoethog a Lasarus (Luc 16:19-31).
Mynnai’r Gweinidog nad â thlodi yr ydym yn ymrafael. Ni ddaw gobaith wrth ymrafael â thlodi. Rhaid mynd i’r afael a gwraidd tlodi. Trodd y Farchnad yn dduw gennym. Nid oes digon yw neges y duw hwn. Daw’r gobaith hwnnw, y gwrthwenwyn y soniodd Bush ac Obama amdano pan fydd pobl yn deall beth yw digon, yn unigol, yn gymunedol ac fel diwylliant. Heb o ddifrif, addysgu ein gilydd ac eraill beth yw digon, mae parhad tlodi byd-eang yn anorfod, a pharhad terfysgaeth a rhyfel, difrod amgylcheddol a llanast diwylliannol, o’r herwydd hefyd, yn anorfod.
 ninnau, bellach wrth Fwrdd y Cymundeb, cawsom gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint. Hyfrydwch oedd cael croesawu Elenid, heno i freintiau a chyfrifoldeb aelodaeth o Eglwys Iesu Grist yn ein plith. Aeth y Cymun Teithiol heno, gyda’n cofion anwylaf, i Nansi.
Diolch am amrywiol fendithion y Sul arbennig hwn.
Nodir y Grawys eleni trwy gyfrwng cynllun ‘Solvitur ambulando’. Diolch i bawb sydd wedi mentro’r cynllun. Mae amryw yn cael hwyl ar y Via Dolorosa; 88 milltir dros 40 diwrnod, 2.2 milltir bob dydd. Dau wedi mentro Jerwsalem i Damascus. 150 milltir dros 40 diwrnod; 3.75 milltir y dydd. Un arall wedi dewis her yr Exodus. 375 milltir dros 40 diwrnod.
Ni angof gennym fod Eglwys Ebeneser, Caerdydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 190 mlwydd oed. Boed wenau Duw ar y dathliadau. Yng ngeiriau’r Prifardd Dylan Iorwerth (gan. 1957)
Am faeth y cenedlaethau -
Ein lle ni yw llawenhau
Ein braint yw cael ei barhau.
Y Sul nesaf (13/3) bydd yr Oedfa Foreol Gynnar am 9:30 dan Aled Pickard. Bydd brecwast arbennig yn cael ei weini rhwng y ddwy oedfa foreol pryd cawn gyfle i bawb brofi nwyddau Masnach Deg. Hefyd, bydd cwis byr ar bethau i’w gweld o gwmpas y Festri wedi’i baratoi ar gyfer y plant. Bydd gweddill oedfaon y dydd (10:30 a 6yh) dan arweiniad ein Gweinidog.
Boed bendith.