Buont mor brysur â chynffon oen … ac felly heno, ‘roedd arweinwyr PIMS wedi trefnu noson ychydig yn wahanol i’r arfer: mini-golf, neu Minny-golf yn Treetop Adventure Golf! 18 twll, a 4 tîm. O’r merched, Shani, Amy, Elin, Cadi a Mali - Mali a orfu o drwch blewyn brithyll! Keith oedd fuddugol o’i dîm yntau: Ioan, Connor a Harri. Yr ieuengaf - Ifan R-J daeth i’r brig rhwng Ifan E, Tomos a Oliver. Y tîm olaf: Elwyn, Fred ac Osian, Elwyn oedd fuddugol! Sgôr uchaf y noson? Fred! ‘Roedd wrth ei fodd! 110 ergyd dros 18 twll - tipyn o gamp! ‘Roedd yn rhaid wrth hoe fach, a chacen cyn troi am adref. Noson dda. ‘N ôl i waith ar yr 21ain!