Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida (Luc 9:10b).
Diben ‘Bethsaida’ yw ehangu a dyfnhau bywyd a chyfraniad defosiynol yr eglwys hon.
Buom heno yn parhau â’n hystyriaeth o’r weddi nas atebwyd, gan droi ar y geiriau enigmatig rhain o Alarnad Jeremeia: Ti a’th guddiais dy hun â chwmwl, fel na ddeuai ein gweddi trwodd (3:44 WM). Beth yw’r ‘cwmwl’ yma sy’n peri i ambell weddi i fynd ar goll? Cafwyd trafodaeth frwd a buddiol. Gall y ‘cwmwl’ gynrychioli ein diffyg menter a beiddgarwch. Mynegwyd hyn o wirionedd gan y Parchedig J. Puleston Jones (1862-1925): Nid yw Duw yn cymeradwyo deisyfiad y mae porthi diogi yn amcan iddo. Rhaid i’r gweddïwr ymroi i fod yn ateb i’w weddi ei hun!
Gall ein methiant mewn gweddi godi o’n hanwybodaeth hefyd. Rhaid bod yn siŵr fod nod ein gweddi’n dda. Y mae mor hawdd, fel meddai Iago yw gweddïo ar gam (4:3 WM). Gweddïai Monica, mam Awstin (354-430), ar i Dduw ei rwystro rhag mynd drosodd, o Ogledd yr Affrig, lle’r oeddent yn byw, i’r Eidal. Tybiai Monica fod gwell cyfle iddo ddod yn Gristion da wrth aros gyda hi. Bu’r fam yn ddyfal a dygn mewn gweddi, ond i’r Eidal aeth Awstin. Daeth yn Gristion yno o dan ddylanwad Emrys, esgob Milan. Dyma sylw un hanesydd: The form of her petition was denied; the substance of her desire was granted. (Peter Brown. Augustine of Hippo: A Biography; Univeristy of California Press; 1967)
Tybed hefyd, os nad ydym braidd yn ddiamynedd? Mewn pregeth ar y pwnc hwn, mynnai Charles Haddon Spurgeon (1834-92) fod gweddi fel llong; os yw’r llong yn mynd ar fordaith bell ni ddaw’n ôl yn fuan iawn, ond pan ddaw, bydd ganddi lwyth gwerth disgwyl amdano. Gweddi fuddiol i bob gweddïwr yw hwn, eto Galarnad Jeremeia: Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr Arglwydd (Galarnad 3:36 WM)
Gweddïodd Paul deirgwaith ar gael gwared â’r ddraenen yn fy nghnawd: ynglŷn â hyn deisyfais ar yr arglwydd dair gwaith ar iddo’i symud oddi wrthyf, ond dywedodd wrthyf, Digon i ti fy ngras i ... (2 Corinthiaid 12:8 BCN) Ni fodlonwyd deisyfiadau’r gweddïwr, ond digonwyd y gweddïwr! Nod eithaf y gweddïwr wrth weddïo yw cael gafael ar Dduw; pwrpas pennaf Duw wrth ateb gweddi yw digoni angen dyfnaf dyn: yr angen amdano Ef ei hun.
Heddiw, yn 1859, ganed Kenneth Grahame (1859-1932). Er braidd yn annisgwyl, buddiol oedd cael y cyfle i drafod heno'r darn hwn o’r nofel The Wind in the Willows:
Slowly, but with no doubt or hesitation whatever, and in something of a solemn expectancy, the two animals passed through the broken, tumultuous water, and moored their boat at the flowery margin of the island. In silence they landed, and pushed through blossom and scented herbage and undergrowth that led up to the level ground, till they stood on a little lawn of marvellous green, set round with Nature’s own orchard-trees: crab-apple, wild cherry and sloe.
"This is the place of my song-dream, the place the music played to me," whispered Rat, as if in a trance. "Here, in this holy place, here if anywhere, surely we shall find Him!"
Then suddenly Mole felt a great Awe fall upon him, and awe that turned his muscles to water, bowed his head, and rooted his feet to the ground. It was no panic terror - indeed, he felt wonderfully at peace, and happy - but it was an awe that smote and held him and, without seeing, he knew it could only mean that some PRESENCE was very, very near. With difficulty he turned to look for his friend, and saw him at his side, cowed, stricken, and trembling.
"Rat!" he found breath to whisper, shaking. "Are you afraid? "Afraid?" murmured the Rat, his eyes shining with unutterable love. "Afraid! Of Him? O!, never, never! And yet - and yet - O! Mole, I am afraid!" Then the two animals, bowed their heads, and did worship.
Onid man cychwyn y profiad crefyddol yw ymdeimlo â rhyfeddod cariad Duw? Nid yw’r profiad o ddirgel ryfeddod Duw yn codi dychryn arnom. I’r gwrthwyneb, y mae yn ein gwahodd i rannu yn ei ryfeddod: oherwydd y rhyfeddod hwn yw bywyd Duw ei hun. Cenadwri ryfeddol yr Efengyl yw bod rhyfeddod Duw wedi ei amlygu i’r byd yn nyfodiad Iesu Grist.
Daeth y cyfarfod i ben gyda chyfnod o weddi yn canolbwyntio’n benodol ar wewyr Yemen. Tueddwn i anghofio mor hawdd yw byw ein ffydd yng Nghymru, ac mor anodd yw byw'r union ffydd honno mewn mannau eraill o’r byd. Ni ellir gwadu, bellach, y cynnydd amlwg yn yr ymosodiadau ar arweinwyr, eglwysi a sefydliadau Cristnogol yn Yemen. Arglwydd, pâr heddwch.
Bu Bethsaida eto’n fendith.