Helaetha faint dy babell, estyn allan lenni dy drigfannau; gollwng y rhaffau allan i'r pen, a sicrha'r hoelion (Eseia 54:2).
Cyfeiriad at hoelion y Babell a godwyd gan bobl Dduw yn yr anialwch sydd gennym fan hyn. Gelwid hi yn Babell y Cyfarfod, sef man cyfarfod Duw â’i bobl: y Tabernacl. Cyfeirir at rai o’r pethau lleiaf yn y Tabernacl: hoelion. Er hynny 'roeddent ymysg ei phethau pwysicaf. Nid mewn maint yr oedd eu gwerth, ond yn eu gwasanaeth.
Daw sicrhau ein hoelion yn bwysicach yn barhaus. Wrth i’r blynyddoedd lifo i’w gilydd mae natur y babell yn newid, a hynny’n naturiol ddigon – mae’r babell yn ehangu, mae llenni dysg a gwybodaeth; profiad a chyfrifoldeb yn estyn allan, mae rhaffau a chortynnau ffydd a chred yn tynhau. Ni all yr hoelion a ddeil ein pabell pan yn berson ifanc fod yn ddigon cryf i ddal, a ninnau mewn oed a phrofiad aeddfetach. Rhaid i bawb ohonom sicrhau rhaffau a chortynnau ein bywyd wrth hoelion sydd yn ddigon cryf i ddal y babell yn ei le. Hoelion cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth. Naw hoelen, a’r naw, bob un, yn gryf ... ond heb fod yn ddigon cryf. Mae angen un arall. Un hoelen yn ddigon cryf i ddibynnu arno, sef Iesu Grist.
Yn symudiad y pethau a ysgydwir, cymorth fi, Arglwydd, i adnabod y pethau nad ysgydwir. Amen.
(OLlE)