Grawys 2016: Ffydd a Thrais 4
Dameg y Dyn Cyfoethog a Lasarus (Luc 16:19-33)
We fight against poverty because hope is ân answer to terror. - Arlywydd George W. Bush (gan.1946) yn 2002. We will expand our programs to support entrepreneurship, civil society, education and youth - because, ultimately, these investments are the best antidote to violence. Arlywydd Barack Obama (gan.1961) yn 2014. Boed yn berson ffydd ai peidio, ni ellir dadlau ond mai da yw dileu tlodi. Prin fod unrhyw beth yn fwy ‘Cristnogol’ na chydweithio i ddileu tlodi. Diben bod yn Gristion yw lledu cariad wrth ledaenu gofal. ... because hope is ân answer to terror. ... the best antidote to violence. Gobaith yn ateb i derfysgaeth, yn wrthwenwyn i drais?
Dameg y Dyn Cyfoethog a Lasarus. Yn y ddameg hon ymdrin Iesu â’r berthynas rhwng pobl a’i gilydd. Lasarus, y dyn tlawd; yn unig un o gymeriadau’r damhegion sydd ag enw. Ystyr yr enw: ‘Duw imi’n gymorth’. Nid oes enw gan y gŵr cyfoethog enw; go brin fod angen enw arno, mae ganddo ddigon o bob peth arall. Adnabyddir y dyn cyfoethog gan yr hyn sydd ganddo: tŷ crand a chyfforddus, cartref clyd, aelwyd gynnes, llwyddiant, dylanwad ac enw da. Mae ganddo fwy na digon o bopeth; ei fwriad yw ychwanegu rhagor! Dim ond enw sydd gan Lasarus. Yn nrych y ddameg gwelwn ein cyfnod. Oni welwn ein hunain yn y gŵr cyfoethog? Mae gennym ninnau bob peth. Oni thueddwn i gredu bod arian, eiddo, dylanwad a grym personol yn agor y Drws i Fywyd. Mae gennym ni bopeth, ond nid oes gennym ddim byd. Pan fu farw’r gŵr cyfoethog, cawn lun ohono gan Iesu: Yn Nhrigfan y Meirw ... cododd ei lygaid a gwelodd Abraham o bell, a Lasarus wrth ei ochr. A galwodd ar Abraham ... ‘anfon Lasarus i wlychu blaen ei fys mewn dŵr i oeri fy nhafod, oherwydd yr wyf mewn ingoedd yn y tân hwn’. (Luc 16:23 -24). ‘Roedd angen gwyrth ar y gŵr hwn i’w achub; amhosibl prynu gwyrth, ni ellir gosod pris arni. Yn hytrach na deisyf ar Abraham i’w achub rhag artaith Trigfan y Meirw, gofynnodd am ddiferyn o ddŵr. Oni welwn ein hunain yn Lasarus? Gŵr cwbl ddiamddiffyn. Anwybyddir ef gan y gŵr cyfoethog. Ar y llawr mae Lasarus yn crafu am grwstyn a cheiniogau sbâr. Dyma pam rhoddir enw iddo; Lasarus yw’r ddynoliaeth. Onid Lasarus ydym ni? Ni heb yr hyn oll sydd gennym - arian, eiddo, dylanwad a grym. Gwyr Lasarus mai dim ond gwyrth all ei achub: rhaid wrth ‘Duw imi’n Gymorth’.
Hell is other people (Jean-Paul Satre, 1905-80) ... Heaven, is other people. Mae tlodi Lasarus yn ei osod ar drugaredd pawb; ni all sefyll bellach ar ei draed ei hun. Rhaid iddo gael perthyn, rhaid iddo wrth gynhaliaeth eraill. Golyga cyfoeth y gŵr cyfoethog nad oes angen iddo fod yn ddibynnol ar neb. Nid dim ond i Wythnos Cymorth Cristnogol neu Bythefnos Masnach Deg y mae’r hanes hwn yn briodol. Stori am y cysylltiad byw, deinamig - cwbl angenrheidiol - hwnnw rhwng pobl a’i gilydd yw hon. Dibynna ein ffyniant ar ffyniant eraill. Ni all y Gorllewin gyrraedd ei nod heb fod y byd yn gyfan yn cael cyfle i fod yr hyn y bwriadwyd iddo fod.
We fight against poverty because hope is ân answer to terror a ... ultimately, these investments are the best antidote to violence. Mae cysylltiad rhwng terfysgaeth ryngwladol a thlodi byd-eang; ni all yr un elusen ddatod y cysylltiad ac ni fydd newid ychydig ar economi’r Gorllewin yn ddigon i ddatod y cysylltiad chwaith. Nid ymrafael â thlodi a wnawn; ni ddaw gobaith o hynny. Rhaid yw mynd i’r afael â gwraidd tlodi. Trodd y Farchnad yn dduw; mae’n holl bresennol ac yn hollalluog. O dan ei dylanwad, trodd y greadigaeth yn nwydd y gellir ei phrynu a gwerthu. Os na ellir gwneud hyn nid oes iddo na ddiben na gwerth ... nid oes digon. Myn Cristnogaeth fod yn rhaid i’r ddynoliaeth ddod i ddeall beth yw digon. O beidio gwybod beth yw digon, ni ddeallwn beth yw digon o fwyd, o arian, o eiddo, o declynnau, o waith, o chwarae, o ddylanwad ... o ladd, o ryfela. Beth yw digon? ... hope is an answer to terror ... the best antidote to violence ... daw’r gobaith hwnnw, y gwrthwenwyn, pan fyddwn ni yn ymroi i addysgu pobl mewn gair a gweithred beth yw digon. Dysgu beth yw digon, yn unigol, yn gymunedol ac fel diwylliant yw’r gobaith sydd yn ateb i derfysgaeth ryngwladol.