‘The Cosmic Christ’ Marian Bohusz-Szyszko (1901-1995)
‘The Cosmic Christ’ Marian Bohusz-Szyszko (1901-1995). Capel Palas Wolvesey, Caer-wynt.
Tra-dyrchafodd Duw ef, a rhoi iddo’r enw sydd goruwch pob enw, fel wrth enw Iesu y plygai pob glin yn y nef ac ar y ddaear ... ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad (Philipiaid 2:9-11 BCN).
Ganed Marian Bohusz-Szyszko - arlunydd a mathemategydd - yn Vilnius, yr Hen Rwsia; Lithuania bellach. Bu Bohusz-Szyszko yn gyson ymdrin â phynciau crefyddol yn ystod ei fywyd. Nodweddir ei waith gan y dechneg arbennig o osod, trosodd a thro, haen ysgafn o baent, y naill ar ben y llall gan greu o’r herwydd ymdeimlad o ddyfnder cynnes ac egni sylweddol iawn. Gwelir hyn, ar ei orau, wrth syllu i lygaid y Crist Cosmig hwn.
Crist Cosmig? Y mae credu yn Atgyfodiad Crist yn golygu bod popeth yn ein bywyd a phob rhan o’n byd yn eiddo iddo, yn ddibynnol arno ac yn atebol iddo. Nid syniad haniaethol mo Arglwyddiaeth y Crist byw, ond argyhoeddiad ymarferol. Mae’r dwylo a ddioddefodd yr hoelion dur bellach yn dal awenau’r cyfan oll o’r cyfan oll: Christ Cosmig ydyw.
Syllwch yn dawel i lygaid y Crist hwn, gan ystyried hyfryd eiriau Isaac Watts, (1674-1748):
D’arglwyddiaeth di sy dros y byd,
tragwyddol yw dy gariad drud;
saif dy wirionedd heb osgoi
pan beidio’r haul a’r lloer â throi.
(cyf. Dafydd Jones, 1711-77; C.Ff.69)
Y mae ef yn ben ar bob tywysogaeth ac awdurdod (Colosiaid 2:10b BCN)
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen
‘The Cosmic Christ’ Marian Bohusz-Szyszko (1901-1995)
(OLlE)