‘The Risen Christ’ John Petts (1914-1991)
‘The Risen Christ’ John Petts (1914-1991) Ffenest ddwyreiniol Eglwys y Santes Fair, Aberhonddu (1989)
Delwedd: © Martin Crampin, Imaging the Bible in Wales
Gwefr a gwreiddioldeb yw pennaf nodweddion gwaith gwydr John Petts. Trwy gydol ei yrfa’n bu fentrus a thra arbrofol gyda thechneg a deunydd. Yn sgil hynny, mae llawer o waith cynnal a chadw bellach ar rhai o’r ffenestri mwyaf arbrofol o’i eiddo!
Perthyn The Risen Christ i gyfnod fyw gofalus - gwaith manwl cywir ydyw, gan fod Petts - a gydiodd mewn mynegiant mwy ceidwadol o’i ffydd erbyn diwedd ei fywyd - yn dymuno i neges yr Atgyfodiad fod yn drawiadol amlwg. Gwelir Crist yn ganolog, a sylwch ar wawl pinc y ffenest. O fewn traddodiad yr Eglwys, defnyddir/gwisgir pinc i awgrymu llawenydd - pinc, er enghraifft yw lliw Sul Gaudete (3ydd Sul yr Adfent. Gaudete - Llawenhewch) a Sul Laetare - 4ydd Sul y Grawys. Daw’r Laetare o Laetare Jerusalem: Llawenhewch gyda Jerwsalem, a byddwch yn falch o’i herwydd, bawb sy’n ei charu; llawenhewch gyda hi â’ch holl galon, bawb a fu’n galaru o’i phlegid ... (Eseia 66:10 BCN). Yn wir defnyddir holl liwiau litwrgaidd yr Eglwys yn y ffenest, ar wahân i du'r Groglith: Llyncwyd angau mewn buddugoliaeth ... i Dduw y bo’r diolch, yr hwn sy’n rhoi’r fuddugoliaeth i ni trwy ein Harglwydd Iesu Grist (1 Corinthiaid 15: 54c, 57 BCN). Mae Gwyrdd amser cyffredin hefyd yn absennol: yng ngwawl y Pasg, anghyffredin popeth cyffredin!
Yn troelli o gwmpas y Crist byw mae 12 cylch. Uwchben Iesu mae’r Efengylwyr: Mathew - y dyn; Marc - y llew; Luc y tarw; a’r eryr - Ioan. Ioan sydd yn mynegi orau diben gwaith y pedwar hyn: ... y mae’r rhain wedi eu cofnodi er mwyn i chwi gredu mai Iesu yw’r Meseia, ac er mwyn i chwi trwy gredu gael bwyd yn ei enw ef (Ioan 20:31 BCN). Sylwch hefyd ar y golomen - yr Ysbryd Glân, nerth Duw - disgynnodd yr Ysbryd Glan ar ddisgyblion Iesu a gwneud cenhadon diflino ohonynt. Nid dyfeisgarwch Cristnogion na’u brwdfrydedd sy’n gwneud cenhadon beiddgar ohonynt ond ‘nerth yr Ysbryd Glân (Luc 1:35).
Gan symud o ben uchaf y ffenest i’r gwaelod, gwelir, y naill gyferbyn a’r llall: Alffa ac Omega (Datguddiad 22:12-17). Y mae defnyddio llythyren gyntaf a’r olaf yn yr wyddor fel symbol i ddynodi dechrau a diwedd yn beth naturiol. Y mae’r ymadrodd ‘O Alffa i Omega’ yn golygu, nid yn unig y dechrau a’r diwedd, ond y cwbl sydd rhwng y ddau hefyd. Nid oes i’r Crist byw na dechrau na diwedd, ond ef ei hun yw dechrau a diwedd pob peth a phawb, ac y mae ef yn bresennol ac yn llywio pob peth o’i ddechrau i’w ddiwedd.
Gan symud i fyny, dyma bysgodyn - symbol o’n gwasanaeth a’n gweinidogaeth: "Dewch ar fy ôl i, ac fe’ch gwnaf yn bysgotwyr dynion." (Marc 1:17 BCN) ... a gyferbyn oen: aberth a hunan ymwadiad. Yr Oen sy’n gorchfygu yw’r Oen a’i rhoes ei hun yn wirfoddol fel aberth.
Nesaf tair cylch ym mhleth - y Drindod; y Tad a’n creodd ni, y Mab a’n prynodd ni a’r Ysbryd Glan sydd yn ein cynnal a’n cadw. Gyferbyn â’r drindod mae’r Chi Rho: chi (Χ) a rho (Ρ) llythrennau cyntaf Christos - Crist. Ansoddair Groeg yw Christos, yn cyfateb o ran ei ystyr i’r gair Hebraeg ‘Meseia’ sy’n golygu ‘eneiniog’:
O! Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd
a’m ceidwad cry’
ymlaen y cerddaist dan y groes a’r gwawd
heb neb o’th du;
cans llosgi wnaeth dy gariad pur bob cam,
ni allodd angau’i hun ddiffoddi’r fflam.
(George Rees, 1873-1950; C.Ff.541)
Yn olaf, y gwenith a’r grawnwin: y bara a’r gwin Gwnewch hyn er cof amdanaf (1 Corinthiaid 11:24b BCN). Gwenith Bara’r bywyd (Ioan 6:35) a grawnwin y Wir Winwydden: ... ar wahân i mi ni allwch wneud dim (Ioan 15:5b BCN).
Ffenest syml, ond llawn hyd at yr ymylon!
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen
(OLlE)