Nid Sul, ond tymor yw'r Pasg: y deugain diwrnod a deg rhwng Sul y Pasg a'r Sulgwyn. ‘Rydym fel eglwys eleni yn cadw Tymor y Pasg, a hynny trwy gyfrwng myfyrdod byr beunyddiol ar y wefan, pwt o neges drydar, a phump o gyfarfodydd liw nos. Er bod y myfyrdodau beunyddiol yn newid cyfeiriad o hyd fyth, mae’r cyfarfodydd hyn yn dilyn trywydd penodol; heno: Iesu’n Ymddangos i Fair Magdalen (Ioan 20:11-18), a hynny trwy gyfrwng y delweddau isod:
Noli Me Tangere gan y Brawd Angelico (c.1399-1455)
Noli Me Tangere gan David Wynne (1926-2014)
Noli Me Tangere Nicolas Maureau (gan. 1969)
Noli Me Tangere Patricia Miranda (gan. 1965)
Noli Me Tangere Seyed Alavi (gan. 1973).
Cysur yw gwybod mai’r tyst cyntaf i gyfarfod â’r Crist byw oedd Mair Magdalen, merch yr oedd ei bywyd nes iddi gael ei gwaredu gan Iesu wedi bod yn druenus iawn (gw. Luc 8:2). Dyma fesur y trawsnewid y gall Crist ei effeithio mewn bywyd person.
Dal i wylo ‘roedd Mair, hyd yn oed wedi iddi ganfod y bedd gwag, ac ni pheidiodd nes iddi ddod wyneb yn wyneb â’r Crist byw a’i adnabod.
Nid Mair oedd yr unig un o gyfeillion Iesu a fethodd â’i adnabod ar unwaith pan ymddangosodd iddynt ar ôl ei atgyfodiad (cymh. 21:4 a Luc 24:16). Ym mhob achos mae’r Arglwydd yn ei ddatguddio’i hun iddynt drwy gyfrwng rhywbeth cyfarwydd iddynt, na allent ei gysylltu â neb ond eu Meistr: toriad y bara yn Luc 24, yr helfa bysgod yn Ioan 21, ac yma yn achos Mair, y llais cyfarwydd yn ei chyfarch yn dyner wrth ei henw personol. Y mae gan Iesu ei ffordd briodol, ym mhob achos, i’w ddatguddio’i hun i’w bobl.
Diolch am gyfarfod hyfryd iawn. Testun ein sylw yn y cyfarfod nesaf bydd Iesu’n Ymddangos i’r Saith Disgybl (Ioan 21).