• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (32)

April 27, 2016 Owain Evans

Yn destun sylw gennym heddiw: nid llun, cerflun na gwydr lliw, ond enghraifft o waith y dewiniaid hysbysebu.

Dyma hysbyseb am ‘Resurrection Beer’. Fe ddaw mewn pecyn o chwech, ac felly o brynu dau, bydd digon gennych i’ch deuddeg dethol.

Cwrw cryf yw ‘Resurrection’ mae’n debyg, sydd yn addas iawn, gan mai sylweddol gadarn - meddwol - yw’r profiad o realiti Duw. Yn sgil dyfodiad yr Ysbryd Glân, gwawdiwyd y disgyblion gan rywrai gyda’r cyhuddiad: Wedi meddwi y maent (Actau 2:13b BCN). Mae gwir adnabod Iesu Grist yn foddion i oes a gyffuriwyd yn rhy hir gan bargain booze hunanfoddhad ryw rith/o grefydd, heb ei grym.

Safiad positif, nid negyddol a ddylai fod gan bobl y Crist byw. Pan ddychwelodd Abraham Lincoln (1809-65) o’r Oedfa un bore Sul, gofynnodd ei wraig iddo, What was the preacher’s theme? Ei ateb swta oedd, Sin. What did he say about it? gofynnodd hi. He was against it, meddai ef. Nid oes newyddion da mewn peth felly. Grym Efengyl y Crist byw yw nid ei bod yn dweud ‘Na’ i fedd-dod er enghraifft, ond ei bod yn cynnig gwell medd-dod - llawenydd heintus gwir adnabod Iesu Grist/yn fywyd annwyl im. (Dafydd Morris, 1744-91; C.Ff.291)

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

← 'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (33)TYMOR Y PASG - 'DEUGAIN A DEG' (3) →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021