'Noli Me Tangere' y Brawd Angelico (c.1399-1455)
Noli Me Tangere’ y Brawd Angelico (c.1399-1455); San Marco, Florence.
Na chyffwrdd â mi (Ioan 20: 17 WM). Dyma ddehongliad y Brawd Angelico: bedd gwag; Mair ac Iesu, coed iraidd a gardd yn ei flodau. Ar ysgwydd Iesu mae rhaw. Pam? Gan feddwl mai’r garddwr ydoedd, dywedodd hithau wrtho, "Os mai ti, syr, a’i cymerodd ef, dywed wrthyf lle y rhoddaist ef i orwedd, ac fe’i cymeraf fi ef i’m gofal." (Ioan 20:15 BCN).
Mae Iesu’n dawel wahardd Mair rhag cyffwrdd ag ef. Sylwch ar goesau a thraed Iesu: maent wedi ‘croesi’ fel petai, y droed dde o flaen ei droed chwith, gan awgrymu symud. Mae Mair yn symud tuag at Iesu, ac Iesu yn symud oddi wrthi, ond ... er bod Iesu’n camu oddi wrthi, mae’n parhau i gadw golwg arni. Yn hyn, mae Angelico’n llwyddo i grisialu’r foment fawr honno: Meddai Iesu wrthi, "Mair." Troes hithau, ac meddai wrtho yn iaith yr Iddewon, "Rabbwni". (Ioan 20:15,16 BCN).
Mae’r ardd yn ei flodau. Yn ei flodau mae bywyd bellach: Cododd Iesu! Ond, nid jest blodau cyffredin ydynt.
O syllu’n ofalus, talpiau o liw yw’r ‘blodau’ hyn: smotiau coch. Mae cysylltiad rhwng ôl yr hoelion yn nhraed Iesu â’r blodau; mae Iesu'n gadael ôl ei gariad dioddefus buddugoliaethus yn yr ardd. Lledu mae ei gariad, gan adael ei farc ar y ddaear faith i gyd.
Aed sôn am waed yr Oen ar led
y ddaear faith i gyd:
gwybodaeth bur a chywir gred
ymdaened dros y byd.
(Thomas Jones, 1769-1850l CFf.488)
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen
(OLlE)