Y morglawdd yn gwarchod Bae Caerdydd rhag rhuthr dyfroedd Aber Hafren oedd llwybr ein taith gerdded y mis hwn. Ochr Penarth i’r morglawdd oedd ein man cychwyn a’n taith yn croesi cynefin yr wylan. Aderyn a ystyrid yn broffwyd tywydd ym myd ein llên gwerin fel tystia’r hen bennill:
Yr wylan fach adnebydd
Pan fo’n gyfnewid tywydd;
Hi hed yn deg ar adain wen
O’r môr i ben y mynydd.
Ein cyrchfan cyntaf oedd yr Eglwys Norwyaidd osgeiddig a ailgodwyd adeg datblygiad y bae; adeilad yn gofeb i gyswllt rhwng ein prifddinas â Norwy yn nyddiau prysurdeb porthladd a dociau Caerdydd. Cafwyd saib yma dros goffi. Wedyn tro o gwmpas y bae a sylwi ar ambell gerflun diddorol ar rai o’r adeiladau yn y bae cyn dychwelyd i Benarth a gorffen diwrnod difyr yng nghwmni ein cyd-aelodau dros ginio ym mwyty El Puerto - adeilad hardd a fu’n gartref i wŷr y tollau yn y dyddiau gynt.