‘Noli Me Tangere’ Patricia Miranda (gan. 1965)
‘Noli Me Tangere’ (2005) Patricia Miranda (gan. 1965)
Mae 'Noli Me Tangere' Patricia Miranda yn addasiad o ‘Noli Me Tangere’ y Brawd Angelico (c.1399-1455)!
Wrth ddileu pob peth arall, fe ddown yn fwyfwy ymwybodol o eiriau Iesu: Na chyffwrdd â mi (Ioan 20: 17 WM). Mae’r llun yn dywyll iawn; ac yn union oherwydd ei fod mor dywyll, mae’r golau sydd ynddo’n olau iawn. Mae Miranda’n amlygu absenoldeb, ond mae’r absenoldeb yn drwch o bresenoldeb. Nid gwag pob gwacter! Cawn ein harwain ganddi y tu hwnt i’r materol a’r gweladwy, a thu draw i blisgyn allanol pethau. Ei bwriad yw amlygu’r sylwedd ysbrydol byw sydd ym mhob peth.
O! fyd anweledig, fe’th welwn,
Adwaenwn di, fyd yr anwybod;
O! fyd anghyffwrdd, fe’th deimlwn,
Diamgyffred, gafaelwn ynot.
(Francis Thompson 1859-1907, cyf. Wil Ifan 1883-1968)
Er diddordeb, gwelir wedi ysgythru i’r llun disgrifiadau o Fair Magdalen: apostola apostolorum, beata peccatrix, dulcís amici dei, myrrhophore, castissima meretrix, beata dilectrix Christi.
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen
(OLlE)