'Crist wrth lan Môr Galilea' Jacopo Tintoretto (1519-1594)
'Crist wrth lan Môr Galilea' Jacopo Tintoretto (1519-1594); Oriel Genedlaethol UDA, Washington
Ac ar draws y pellter a oedd rhyngddynt
Daeth llais a lefarodd wrthynt:
‘O blant, a oes gennych ddim bwyd?’
Yna dywedodd, ‘Bwriwch y rhwyd
I’r tu deau.’
Yr Arglwydd Yw, (Wmgawa; Gwasg Gee 1984) gan Gwyn Thomas (1936-13/4/2016).
Yn syml a thrawiadol - sylwch ar fraich a llaw dde'r Crist - mae Tintoretto cyfleu’r gorchymyn: "Bwriwch y rhwyd i’r ochr dde i’r cwch, ac fe gewch helfa." (Ioan 21:6 BCN)
Gwaith anodd yw perswadio pysgotwyr na wyddant y ffordd iawn i bysgota, yn arbennig yn y cyswllt hwn. Nid oeddent eto wedi adnabod Iesu: ... safodd Iesu ar y traeth, ond nid oedd y disgyblion yn gwybod mai Iesu ydoedd (Ioan 21:4 BCN). Dyma ddyn dieithr yn rhoddi gorchymyn annisgwyl ar amser annhebygol. Bwriwch y rhwyd i’r ochr dde i’r cwch, torrwch ar eich cynllun, torrwch ar arferol, torrwch ar draddodiad a phob synnwyr cyffredin. I’w clod buont yn ufudd, a chanlyniad eu hufudd-dod llwyr i orchymyn od oedd llwyddiant mawr.
 rhwyd ein crefydda’n wag ar waethaf brwdfrydedd mawr, edrychwn o’r newydd i gyfeiriad y lan, a gwrando o’r newydd ar ei orchymyn ef: Bwriwch y rhwyd i’r ochr dde ...
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen
(OLlE)