Carwyn Jones; Andrew R.T Davies; Leanne Wood; Nathan Gill; Kirsty Williams ac Alice Hooker-Stroud ... arweinwyr bob un.
Ond, mae pob un ohonom yn arweinydd ...
Mae pob un ohonom â dylanwad o ryw fath ar rywun, rhywle.
Mae pawb ohonom, i rywun megis haul: try ei byd o’n cwmpas.
Dwi newydd orffen darllen Let Your Life Speak: Listening for the Voice of Vocation (Jossey-Bass; 1999) gan Parker J. Palmer (gan. 1939) Myn yr awdur: A leader is someone with the power to project either shadow or light onto some part of the world and onto the lives of the people who dwell there ... I think of teachers ... who shine a light that allows new growth to flourish, while others cast a shadow under which seedlings die.
Da hyn.
Mae angen arweinwyr goleuedig ar ein gwlad a’n byd. Ond ... cystal cydnabod bod angen manylu yn hytrach na chyffredinoli. Er mor bwysig yw cael arweiniad golau gan Bab, Patriarch ac Archesgob; Rabi a Prif Rabi; Imam, Mufti a Mullah; Y Parchedig, Y Gwir Barchedig a’r Parchedicaf; Jones, Davies, Wood, Gill, Williams a Hooker-Stroud pwysicach ... llawer pwysicach yw tynnu’r neges i berfedd ein byw unigol ninnau: gwryw; benyw; gŵr; gwraig; cymar; rhiant; plentyn; brawd; chwaer; gweithiwr; pennaeth; dinesydd; cyfaill; aelod - beth wyt ti? Cynigydd golau, neu daflwr cysgodion?
(OLlE)