Dwy chwaer, Elin a Ffion (Pen-blwydd Hapus Ffion! 10 oed heddiw!), fu’n arwain ein defosiwn heddiw, a’r testun dan sylw? Marathon Llundain! Llawn haeddai’r myfyrdod a’r weddi eu cofnodi’n llawn:
"Pa mor hir ydy ras Marathon? (42.195 km neu 26.2 milltir) Mae’n rhaid ymarfer yn galed iawn er mwyn cymryd rhan mewn ras Marathon. Mae pob mathau o bobl yn cymryd rhan mewn Marathon. Mae yna athletwyr mewn cadair olwyn yn cymryd rhan - maen nhw’n gweithio'n galed iawn i fagu cyhyrau cryf yn ei breichiau a’u hysgwyddau er mwyn gallu gwthio’i hunain yn gyflyn a di-stop am 26.2 o filltiroedd.
Enillodd Samuel Wanjiru o Kenya'r fedal aur yng Ngemau Olympaidd 2008. Gorffennodd y Marathon mewn amser cyflym iawn - 2 awr 6 munud a 32 eiliad, sef record Olympaidd newydd!
Paula Radcliff ydy un o’r merched gorau erioed i redeg Marathon. Mae hi’n dal y record bydd ers 2003. Mae hi wedi ennill Marathon Llundain a Marathon Efrog Newydd dair gwaith ac wedi ennill Marathon Chicago. Mae athletwyr Marathon gorau’r byd yn treulio blynyddoedd lawer o’u bywydau yn paratoi ac ymarfer ar gyfer rasys enwocaf y byd.
Nid athletwyr gorau’r byd yn unig sy’n rhedeg Marathon Llundain - yn 2012 ‘roedd yna 37,500 o redwyr! Heddiw bydd y miliynfed rhedwr yn croesi’r llinell derfyn. Bydd rhai ohonyn nhw’n gwisgo gwisg ffansi, rhai ohonyn nhw’n rhedeg tra’n sownd i rywun arall, a rhai ohonyn nhw’n cerdded y rhan fwyaf o’r ffordd. Ond, mi fyddan nhw gyd yn y ras, i gyd yn rhan o Farathon Llundain.
Yn y Beibl mae Paul yn dweud bod bywyd y Cristion yn debyg i ras - ras hir fel ras Marathon. Nid ras fer - fel sprint ydy bywyd y Cristion. Mae’n rhaid dal ati i garu Iesu drwy’ch bywyd i gyd. Weithiau mae bywyd yn anodd. Dro arall mae bywyd yn haws. Ond, drwy’r cyfan mae’n rhaid dal ati i gredu yn Iesu.
Dyma eiriau Paul: Dw i wedi ymladd yn galed, dw i wedi rhedeg y ras i’r pen, a dw i wedi aros yn ffyddlon (2 Timotheus 4:7 beibl.net). Hefyd, fel Marathon Llundain, nid ras i ychydig o bobl yn unig yw’r bywyd Cristnogol. Mae Iesu wrth ei fodd yn gweld pobl o bob math, yn gwisgo bob math o ddillad, o bob math o wledydd yn dod i gredu ynddo. Mae Iesu’n croesawu pawb."
Annwyl Dduw, mae bod yn Gristion fel marathon!
Helpa ni i ddal ati i ddal ti!
Helpa ni i ddal ati mewn ffydd: i ymddiried ynot ac yn ein gilydd.
Helpa ni i ddal ati mewn cariad: i garu'n gilydd, i faddau i'n gilydd, i ymwneud yn garedig â phawb, ac i ddangos dy gariad i eraill.
Helpa ni i ddal ati mewn gobaith: i wasanaethu eraill yn dy enw, i gynorthwyo'r gwan a'r tlawd, ac i fod fel Iesu, a ddaeth nid i'w wasanaethu, ond i wasanaethu. Amen
Ein braint heddiw oedd cael croesawu yn ôl atom y Parchedig Dyfrig Rees. Mae Dyfrig yn weithgar gydag Undeb yr Annibynwyr - ef yw Cadeirydd yr Adran Genhadaeth a’r Eglwys Fyd-eang. Ers dechrau’r flwyddyn hefyd, Dyfrig yw ysgrifennydd Cyfundeb Dwyrain Morgannwg - gan ddilyn ein Gweinidog yn y swydd! Mae Dyfrig yn weinidog yn y Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr. Ble ‘roedd ein Gweinidog yn gwasanaethu heddiw? Trwy gyd-ddigwyddiad pur, yn y Tabernacl Pen-y-bont ar Ogwr! Ac wrth sôn am gyd-ddigwyddiadau ... Elin a Ffion oedd yn arwain y defosiwn pan fu Dyfrig yn gwasanaethu gyda ni ym mis Medi 2015!
Gan arwain ymlaen o ddefosiwn y ddwy heddiw, bu Dyfrig hefyd yn sôn am Farathon Llundain yn ei sgwrs i’r plant. Cyfeiriodd sylw’r plant at y ffaith fod ‘gorsafoedd’ dŵr hwnt ac acw ar gwrs y ras, a’r rhedwyr blinedig yn cael dŵr glan, oer i’w hadfywio. Mynnai Dyfrgi fod ras bywyd yn gallu bod yn anodd, â ninnau’n blino, ond mae Iesu yno i’n cynnal a’n cadw. Mae oedfa fel gorsaf ddŵr - cawn ein hadfywio i barhau i redeg ras bywyd y ffydd. Fel rhan o’r sgwrs cafodd rhai o’r plant gyfle i redeg o gwmpas y capel, gan dderbyn gan Dyfrig ‘dwr’ i’w cynnal. Cydnabu Gwrhyd bach ei fod yn teimlo’n well wedi derbyn y dŵr hwn.
Bore a nos, arweiniwyd ni gan Dyfrig i Efengyl Ioan. Ioan 21; 19 Canlyn fi." Iesu'n cadarnhau'r alwad i Pedr fethiannus. Adferiad Pedr oedd echel pregeth y bore: Ioan 21:19 ... meddai wrth Pedr, "Canlyn fi." Y mae’r cwestiwn a’r comisiwn a ailadroddir deirgwaith yn cyfateb i’r gwadu deirgwaith. Er gwaethaf ei gwymp cafodd Pedr faddeuant llwyr a llawn. Er mor druenus oedd ei fethiant yn y gorffennol, ni chollodd Iesu ei ffydd ynddo; ‘roedd yn barod i ymddiried y gwaith a’r cyfrifoldeb pwysicaf iddo: "Portha fy ŵyn" ... "Bugeilia fy nefaid" ... "Portha fy nefaid". Dengys yr hanes mai’r cymhwyster pennaf ar gyfer ein gweinidogaeth a’n gwasanaeth yw cariad cwbl sicr at Grist - "A wyt ti’n fy ngharu i?" (Ioan 21:17). Galwad Iesu i Seimon Pedr yw galwad Iesu i bawb o’i bobl; galwad beunydd beunos yw hon ... Canlyn fi. Ein braint yw ufuddhau.
Testun ein sylw yn Hwyr oedd Ioan 10:22-30. Mae Iesu'n yn yr adran hon o Efengyl Ioan yn datgelu natur ei genhadaeth a'i waith ac yn cywiro aml i gamddealltwriaeth. Mae’r arweinwyr crefyddol mewn penbleth, a’r cwestiwn ai Iesu yw Crist yn dal i’w poeni: Am ba hyd yr wyt ti am ein cadw ni mewn ansicrwydd? Os tydi yw’r Meseia, dywed hynny wrthym yn blaen. (Ioan 10:24 BCN) Swm a sylwedd atebiad Iesu iddynt yw hyn: "Nid diffyg tystiolaeth i’r gwirionedd sy’n cyfrif am eich ansicrwydd. Rhoddwyd digon o dystiolaeth gen eich bron yn fy ngeiriau a’m gweithredoedd i. Arnoch chi eich hunain y mae’r bai, am na fynnech gael eich argyhoeddi." Mae’r rhai sydd yn derbyn y dystiolaeth ac yn credu yng Nghrist yn dod i berthyn i’w braidd ef: Hwy yw rhodd fy nhad i mi … Myfi a’r Tad, un ydym. Yma mynegir yn ddiamwys y gwirionedd sy’n symud trwy’r Efengyl: undeb perffaith y Tad a’r Mab. I’r Cristion dyma’r gwirionedd sy’n cynnwys yr allwedd i bob cwestiwn ynglŷn â natur, cymeriad a phwrpas Duw. Y mae’r cwbl wedi ei ddatguddio yn Iesu Grist.
Tynnodd Dyfrig ein sylw at y cymal annisgwyl: Yr oedd yn aeaf (Ioan 10:22b). Pa amcan sydd i’r gosodiad hwn? Efallai mai cyfeirio at natur y tywydd yn hytrach na thymor y flwyddyn. Gall fod yn dywydd gaeafol heblaw’n yn y gaeaf! Neu, efallai mai ei ddiben yw dangos teimlad angerddol Iesu am agor meddwl a chalon yr arweinwyr crefyddol hyn. Ni chai hyd yn oed dywydd oer a garw'r gaeaf ei gadw o’r Deml - rhaid oedd iddi rybuddio’r arweinwyr hyn ac ymresymu â hwy tra ‘roedd y gobaith lleiaf am eu hargyhoeddiad. Er cystal yr esboniadau hyn, creodd Dyfrig gysylltiad effeithiol rhwng y cymal astrus hwn â’r rhannau agoriadol y bennod (10:1-21), lle cier son am Gorlan y defaid ac Iesu’r Bugail Da. Awgrymodd mai angen pennaf y defaid yn y gaeaf yw bwyd? Ein gwaith fel pobl Iesu yw estyn i eraill ymborth ffydd, gobaith a chariad gan fyw i ddangos Iesu a gwasanaethu’n hoes. (Elfed (1860-1953); C.Ff. 613)
Testun sylw’r Ysgol Sul heddiw oedd emyn Paul i Gariad (1 Corinthiaid 13) Wedi darllen y darn cyfoethog hwn o’r Beibl, gwahoddwyd y plant i ddewis ei hoff gymal a’i bortreadu fel delwedd. Dyma ambell enghraifft:
‘Roedd Madog yn hoffi’r syniad o gariad yn symud mynyddoedd.
Dewis Elen oedd ffydd, gobaith, cariad: ... y mae ffydd, goabith, cariad, y tri hyn yn aros.
Ffion yn portreadu cymwynasgarwch cariad trwy gyfrwng y pum torth a dau bysgodyn.
Cloc ar ben calon a bysedd y cloc yn pwyntio at y ddolen ddiddiwedd oedd gan Connor - delwedd syml i gyfleu natur hirymaros cariad.
Diolch am fendithion y Sul.