‘Christ of the Breadlines’ Fritz Eichenberg (1901-1991)
‘Christ of the Breadlines’ (1953) gan Fritz Eichenberg (1901-1991).
Nid oes angen dadansoddi dim ar waith Eichenberg, mae’r ergyd yn amlwg a nerthol.
Yn Nasareth, ymhlith ei bobl ei hun, cafwyd gan Iesu gyweirnod ei weinidogaeth (Luc 4:16-30): daeth Iesu i bregethu newydd da i dlodion, i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion, ac adferiad golwg i ddeillion, i beri i’r gorthrymedig i gerdded yn rhydd, i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd (4:18b-19) - Sefyll gyda’r tlawd, dyna gyweirnod gweinidogaeth Iesu.
Sefyll gyda’r tlawd - dyna gyweirnod gweinidogaeth y Crist byw a’i bobl. Gweinidogaeth llawn tosturi a chydymdeimlad yw hon - gweinidogaeth sydd yn amlwg yn ‘Christ of the Breadlines’ Eichenberg.
Sefyll gyda’r tlawd yw’r nod; sefyll gyda’r tlawd yw’r cyfrwng i gyrraedd y nod. Er mwyn i Crist Iesu gael y lle canol, rhaid i’w bobl mynd i’r ymylon, a mentro at yr ymylol.
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen
(OLlE)
The Christ of the Homeless (1982) Fritz Eichenberg (1901-1991).