Atgyfodiad’ Solomon Raj (gan. 1921)
‘Atgyfodiad’ (1996) Solomon Raj (gan. 1921)
Ganed Dr Solomon Raj yn Andhra Pradesh, India. Arlunydd ydyw, a gweinidog Lutheraidd. Ei gyfrwng yw cyfuniad o fatic (techneg o liwio defnydd) a thorlun pren.
Yn y gwaith hwn, defnyddir ganddo weddi hynafol Hindŵaidd (Wpanisiadig) fel cyfrwng i ddehongli’r Atgyfodiad.
Arwain fi o anwiredd i Wirionedd,
o dywyllwch i Oleuni,
o farwolaeth i Fywyd.
Gweler haul tanbaid ym mhen uchaf y llun, ac oddi tanodd mae dau flodyn lotws - arwydd o’r symud o anwiredd i Wirionedd,/o dywyllwch i Oleuni/o farwolaeth i Fywyd.
Tyf y lotws - yn a thrwy Iesu - gan estyn am olau a gwres yr haul: ... bydd y rhai cyfiawn yn disgleirio fel yr haul ... (Mathew 13:43). Wrth draed y Crist: marwolaeth wedi marw! Arferir ac addasir mymryn gan Raj ar symbolaeth gyffredin celfyddyd grefyddol Hindŵaidd: gosodir duw llai wrth draed duw amgenach. Yn ‘Atgyfodiad’ Solomon Raj, gwelir angau’n gelain wrth draed ein harglwydd byw. O’r herwydd, gwyddom mai Hwn all ein harwain o anwiredd i Wirionedd,/o dywyllwch i Oleuni/o farwolaeth i Fywyd.
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen
(OLlE)