'SOLDIER OF PEACE'

Soldier of Peace: The Life of Yitzhak Rabin

Yitzhak Rabin (1922 -1995).

Ges i Soldier of Peace: The Life of Yitzhak Rabin (Dan Kurzman, 1998; Harper) yn anrheg yn ddiweddar.

Soldier of Peace ...

Soldier of Peace?

Yn ei ail lythyr iddo, mae Paul yn annog Timotheus: Tydi, gan hynny, goddef cystudd, megis...sylwch...milwr da i Iesu Grist (2:3 WM).

Wrth hel meddyliau heddiw, ystyriwn beth yw bod yn filwr da i Iesu Grist - yn Soldier of Peace.

Tydi, gan hynny, goddef cystudd, megis milwr da i Iesu Grist.

Mae’r Soldier of Peace yn goddef caledi. Os oedd Dafydd yn fawr yn lladd Goliath, ‘roedd yn fwy yn peidio lladd Saul. Os oedd Crist yn fawr â’r fflangell yn ei law yn y Deml, ‘roedd yn fwy pan ‘roedd y fflangell ar ei gefn yn y llys. Goddef cystudd ... un o hanfodion bod yn Soldier of Peace yw goddef gystudd; nid bod yn rhy fach i ddweud ein meddwl, ond yn ddigon mawr i beidio; nid bod yn rhy lwfr i ymateb, ond yn ddigon dewr i beidio. Mae goddef drygioni yn fwy o gamp na chwalu drygioni: cofiwn esiampl Gandhi, Martin Luther King, Waldo, Rabin, Mandela. Goddefgarwch yw'r egwyddor sy’n cymell yr hwn â'r gallu ganddo i siarad, i dewi; yr hwn â'r gallu ganddo i ymateb i drais â thrais pellach, i beidio. Egwyddor i fywyd pob dydd yw hwnnw; egwyddor i ti a minnau.

(OLlE)