Wedi croesi at y tir daethant i Genesaret ac angori wrth y lan. (Marc 6:53)
Paned ... llinell, sgwâr a chiwb!
Yn Terra Nova heddiw, dros baned buom yn gwmni dedwydd, ychydig yn llai nag arfer, yn trafod arwyddocâd llinell, sgwâr a chiwb. Bu ffrwd o drafod; buddiol a da bu’r cyfarfod hwn eto.
Gwahoddwyd ni gan y Gweinidog i ddychmygu mae bywyd corff yw’r llinell.
Pwynt yn symud yw llinell, ac onid y lle gorau i ddechrau yw dechrau gyda’r pwynt. Beth yw pwynt bywyd? A oes diben i’n byw?
Ym mer esgyrn ein ffydd mae’r argyhoeddiad bod y byd, bod y corff yn dda. Daeth y Gair yn Gnawd wedi’r cyfan! Dywedodd Duw, Gwnawn ddyn ar ein delw, yn ôl ein llun ni ... (Genesis 1:26a). Beth bynnag arall a olyga’r geiriau hyn y mae’n ddiogel dweud ar eu pwys ein bod fel pobl yn greadigaeth cwbl arbennig. Y mae pob unigolyn yn werthfawr i Dduw; mae’r cig a’r gwaed hwn yn wrthrych ei gariad.
Ti â’n ceraist ni er dy fwyn dy hun, meddai Awstin Sant (354-430); er mor rymus y geiriau hyn, gwych iawn yw dehongliad y bardd James Weldon Johnson, 1871-1938. (Saint Peter Relates an Incident; Penguin; 1935):
And God stepped out on space,
And he looked around and said:
I’m lonely-
I’ll make me a world.
Ond, wedi creu’r haul a’r lloer a’r sêr a phob peth arall, erys unigrwydd Duw:
Then God sat down -
On the side of a hill where he could think;
By a deep, wide river he sat down;
With his head in his hands,
God thought and thought,
Till he thought: I’ll make me a man!
Nid dianc rhag y materol mo’r gamp, ond ei gofleidio, ac o’i gofleidio dileu'r ffin ffals rhwng y materol a’r seciwlar.
Os oes Beibl gerllaw, cymerwch gip olwg ar Salm 139:14, Ioan 1:14 a 1 Corinthiaid 6:19.
Er yn dda, mae mwy i fywyd na llinell lorwedd bywyd ‘cig a gwaed’. Awgrymodd y Gweinidog felly, mai cyfuniad o’r corff a’r meddwl yw’r sgwâr.
Mae’r sgwâr yn ‘gyfoethocach’ na’r llinell. Mae mwy i fywyd na dim ond bywyd y corff. Crëwyd ni i ymresymu. Trafod ac ystyried ein cred yw anadl einioes ein ffydd. Ni ellir crisialu ffydd. Mynnu chwalu syniad felly am grefydd a wnaeth Iesu, mynnu datod cwlwm pob parsel parod a oedd gan bobl grefyddol ei ddydd. Mynnu agor bywyd allan a wnaeth, a hwythau am ei gau i mewn - ac mae pobl wrthi’n brysur o hyd - i’r llythyren. Dweud oedd Iesu o hyd nad ildio i’r drefn, ymostwng yn wasaidd i’r syniadau derbyniol a chyfarwydd yw credu ynddo, ond anturiaeth ddi-ben-draw.
Trowch at Salm 27: 11; Micha 2: 13 a Mathew 7:7
Cyfuniad o’r corff, meddwl ac ysbrydol yw’r ciwb. Mae sgwâr yn gyfoethocach na llinell, ond fflat ydyw o hyd. Wrth ychwanegu dimensiwn arall eto, mae gennym rywbeth mil gwaith gwell na’r llinell a’r sgwâr. Gallwn fod yn gorfforol ac ymenyddol fyw heb fod yn ysbrydol fyw. Byw’n ysbrydol a rydd gwerth ac urddas i’r bywyd corfforol ac ymenyddol. Trowch at Genesis 3:9; Salm 42:1&2; Eseia 55:8 a Colosiaid 2:10a.
Rhaid cyfuno’r corfforol, ymenyddol ac ysbrydol. Crëir ciwb o sgwariau, a chrëir y sgwariau o linellau. Y tri yn un, a’r un yn dri. Rhaid meithrin y tri, neu fy wywa’r tri.
Diolch am gwmni’n gilydd, am sgwrs a thrafodaeth. Daeth Genesaret - awr fach yng nghwmni’n gilydd wrth ymyl llyn llonydd Parc y Rhath â bodd a bendith. Cawsom egwyl fach i feddwl, a thrafod ac o ogwyddo ein meddwl at Dduw.