‘Noli Me Tangere’ David Wynne (1926-2014)
‘Noli Me Tangere’ David Wynne (1926-2014) Cadeirlan Ely, Swydd Gaergrawnt
Meddai Iesu wrthi, "Mair." (Ioan 20:16a BCN)
Un gair, ‘Mair’, a’r marw
a gyfododd yn fyw ...
Un gair a dorrodd ei hiraeth,
Un gair a drywanodd ei holl amheuaeth ...
O Farw’n Fyw, (Symud y Lliwiau; Gwasg Gee 1981)
Gwyn Thomas (1936-13/4/2016).
"Paid â glynu wrthyf, oherwydd nid wyf eto wedi esgyn at y Tad ..." (Ioan 20:17 BCN)
Mae holl osgo Mair David Wynne yn ymgorfforiad o sioc a chariad. Sioc yr adnabod: Rabbwni ... a’r awydd - cwbl naturiol - i gofleidio’r Crist byw mewn llawenydd cariad. Sylwch sut mae llaw chwith Mair yn symud at ei phen - ystum o ddryswch - tra bod ei llaw dde yn estyn am y Crist. Mae’r Crist yn ymsythu, a phellhau: Paid â glynu wrthyf, ac mae ei ddwy law, a’r bysedd hirion, main yn cyfleu i’r dim: nid wyf eto wedi esgyn at y Tad
‘Paid’ ...
Dyma’r gair anoddaf o ddigon i glywed, ond ‘Paid’ yw un o bennaf a phwysicaf eiriau cariad. Ar adegau, arwydd o gariad mawr mawr yw dweud ‘Paid’ wrth un sydd yn annwyl gennym. Ar adegau, o’i gariad mawr, mae Duw yng Nghrist yn dweud ‘Paid’ wrthym, a hynny er ein lles a’n bendith, ac er lles a bendith eraill, drwom. Os yw Duw, ar adegau yn ymatal rhag rhoi i ni’r pethau a geisiwn, nid yw byth yn ymatal rhag rhoi ei hun i ni. Dyna’n union a ddysgodd Mair, a hithau wedi mynd i gyhoeddi’r newydd i’r disgyblion (Ioan 20:18 BCN). Dyna ddysgwn ninnau hefyd wrth ymagor i arweiniad y Crist byw.
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen
(OLlE)