'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (26)

'Doubting Thomas 2 (After Caravaggio)' John Walters (gan. 1976)

'Doubting Thomas 2 (After Caravaggio)' 2007; John Walters (gan. 1976)

'Doubting Thomas 2 (After Caravaggio)' 2007; John Walters (gan. 1976)

Fel sydd yn amlwg o deitl y llun, sail y gwaith hwn gan John Walters yw Incredulità di San Tommaso (Anghrediniaeth Thomas) 1601-1602 gan Michelangelo Merisi da Caravaggio (1571-1610). Er mawr syndod, mae Walters yn dewis dileu Crist o’r llun, gan adael gwacter tywyll. Mae’r arlunydd yn ceisio cyfleu ymateb Iesu i gyffes ffydd Thomas: Dywedodd Iesu wrtho, ‘Ai am i ti fy ngweld i yr wyt ti wedi credu? Gwyn eu byd y rhai a gredodd heb iddynt weld (Ioan 20:29 BCN). Ond sut mae credu heb weld?

Mae’r disgybl sydd ym mlaendir y llun yn estyn am yr anweledig; ei fwriad yw cyffwrdd â’r absennol. Gwna hynny gan ei fod yn ymdeimlo â phresenoldeb y Crist byw yn llenwi a sancteiddio’r ‘gwacter’. Ffydd yw gweld yr anweledig; ffydd yw gwybod nag gwag pob gwacter - mae'r Crist byw gerllaw, yn agos agos. Dim ond estyn amdano sydd angen ...

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)

 Incredulità di San Tommaso (Anghrediniaeth Thomas) 1601-1602 gan Michelangelo Merisi da Caravaggio (1571-1610)

 Incredulità di San Tommaso (Anghrediniaeth Thomas) 1601-1602 gan Michelangelo Merisi da Caravaggio (1571-1610)