‘The Road To Emmaus’ Piety Choi (gan. 1968)
Ond heb yn wybod iddynt
Daeth un, yn drydydd, y dydd hwnnw
I fod yn ymdeithydd gyda hwy.
Gofynnodd ynghylch eu galar.
Ni wyddai y trydydd hwn, meddai,
Am na bedd na diwedd.
Emäus (Symud y Lliwiau; Gwasg Gee 1981) Gwyn Thomas (1936-13/4/2016).
Mae Piety Choi yn byw a gweithio bellach yn yr Unol Daleithiau, ond ganed a maged hi yn Nhe Corea. Un o hanfodion celfyddyd Choi yw tywod. Mae hi’n cymysgu tywod i’r paent, ac fe grëir felly celfyddyd gwir arbennig.
‘The Road To Emmaus’ Piety Choi (gan. 1968)
Dyma’r tri ar waelod y llun; syrth eu cysgodion tu ôl iddynt, sydd yn awgrymu mae cerdded o’r tywyllwch tuag at y goleuni a wnânt. Mae’r golau o’u blaenau, yn eu tynnu ymlaen. Mae’r llwybr yn olau, ond nid hawdd mohono. Ceir awgrym cynnil o ddyffryn tywyll du y Salmydd (23:4a). Ond er mor anodd y daith a’r teithio: nid ofnaf niwed, oherwydd yr wyt ti gyda mi (23:4b). Y Crist byw yn ymdeithydd gyda ni. Teithio gyda Christ i’r disgyblion gynt oedd mynd gydag Iesu o bentref i bentref, o dref i dref. Teithio gyda Christ i ni yw mynd gydag ef o ddatguddiad i ddatguddiad, o wirionedd i wirionedd, o brofiad i brofiad, o wasanaeth i wasanaeth, o ogoniant i ogoniant. Dyma anturiaeth fawr ein ffydd!
... rho im brofi o’r gorfoledd
sy’n anturiaeth fawr y groes,
a chael llewyrch golau’r orsedd
yn fy nghalon dan bob loes.
(J.Tywi Jones, 1870-1948; CFf.742)
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen
(OLlE)