Nid Sul, ond tymor yw'r Pasg: y deugain diwrnod a deg rhwng Sul y Pasg a'r Sulgwyn. ‘Rydym fel eglwys eleni yn cadw Tymor y Pasg, a hynny trwy gyfrwng myfyrdod byr beunyddiol ar y wefan, pwt o neges drydar, a phump o gyfarfodydd liw nos. Er bod y myfyrdodau beunyddiol yn newid cyfeiriad o hyd fyth, mae’r cyfarfodydd hyn yn dilyn trywydd penodol; heno: Cerdded i Emaus (Luc 24:23-35), a hynny trwy gyfrwng y delweddau isod a’r gerdd Emäus (Symud y Lliwiau; Gwasg Gee 1981) gan Gwyn Thomas (1936-13/4/2016).
Marwolaeth; oer, tywyll,
Amdo du o greadigaeth,
Niwl yn treiddio trwy fodolaeth.
Marwolaeth, a byd heb obaith.
Y dydd hwnnw, yn eu meddyliau -
Y ddau oedd yn ymdaith tuag Emäus -
Yr oedd crog a chri a diwedd
A sŵn trwm maen ar fedd:
Marwolaeth.
Am hyn yr oedd eu hymddiddan.
Ond heb yn wybod iddynt
Daeth un, yn drydydd, y dydd hwnnw
I fod yn ymdeithydd gyda hwy.
‘The Road to Emmaus’ Daniel Bonnell (gan. 1954)
Ond heb yn wybod iddynt
Daeth un, yn drydydd, y dydd hwnnw
I fod yn ymdeithydd gyda hwy.
Gofynnodd ynghylch eu galar.
Ni wyddai y trydydd hwn, meddai,
Am na bedd na diwedd.
‘The Road To Emmaus’ Piety Choi (gan. 1968)
A dywedasant hwythau am y pethau
A aeth â’u gobaith ymaith.
A dywedwyd hefyd am ddychryn
Y bedd heb gorff a gweledigaeth o angylion.
‘O ynfydion,’ meddai yntau
A dehongli iddynt yr Ysgrythurau -
Yr hyn a ddywedid yno
Am yr un a oedd i ddyfod, ac am y croeshoelio.
‘The Supper at Emmaus’ Darr Sandberg (gan. 1963)
Ac wedi teithio, yn hwyr y dydd,
Y ddau a gymellasant eu cyd-ymdeithydd
I aros gyda hwy.
Ac wrth y bwrdd
Gyda’r fendith a thorri’r bara -
Y bwyta sy’n gryfach nag anobaith -
‘Y Swper yn Emaus’ Emmanuel Garibay (gan. 1962)
Agorwyd llygaid y ddeuddyn trist
Fel y gwybuant mai’r dieithryn hwn oedd Crist.
Yna Efe a ddiflannodd o’u golwg.
‘Kitchen Maid with the Supper at Emmaus’ Diego Rodriguez de Silva y Velásquez. (1599-1660)
‘Onid oedd ein calon,’ meddai’r ddau,
‘Yn llosgi ynom gyda’i ymddiddan.
Yr Arglwydd a gododd yn wir.’
‘Supper at Emmaus’ Ceri Richards (1903-71)
Ac yn hwyr fel yr oedd, codasant
A dychwelasant i Jeriwsalem
I adrodd eu llawenydd.
Ac yr oedd y nos honno iddynt
Yn olau, olau: fel dydd.
Hanes dau ddisgybl yn cyfnewid eu profiadau ar y ffordd adref a geir yma. Cleopas oedd enw un. Does dim sicrwydd, ond mae’n ddigon naturiol credu mai ei wraig, neu ei fab neu ferch oedd y llall. Yn Ioan 19:25 dywedir bod Mair, gwraig Clopas yn un o’r gwragedd a fu’n sefyll yn ymyl y groes, ac nid yw’n hollol amhosibl felly, mai Cleopas a Mair sydd yma. Pwy bynnag oeddent, digalon oeddent. Ar y ffordd yr ydym fel y ddau hyn - y ffordd lle mae llwybrau lawer - ac, eto fel y ddau hyn, ‘rydym weithiau’n cerdded y ffordd yn ddigalon. Ond, y mae’r Atgyfodiad hefyd o drugaredd ar y ffordd yn dynesu atom.
Diolch am gyfarfod hyfryd iawn. Testun ein sylw yn y cyfarfod nesaf bydd Iesu’n Ymddangos i Fair Magdalen (Ioan 20:11-18).