'Yr Atgyfodiad' Capel Corona, Cadeirlan Caergaint
'Yr Atgyfodiad' Capel Corona, Cadeirlan Caergaint 13g
Yng Nghapel Corona, Cadeirlan Caergaint, gwelir ffenest lliw o’r 13 ganrif: portread mewn gwydr o’r Atgyfodiad. Gwelir gogoniant y ffenest yn a thrwy golau dydd - yn yr un modd gwelir gogoniant ffydd yn a thrwy gyfrwng Cariad olau Duw.
Yng nghanol y ffenest, gwelir beth sydd yn ymddangos i fod yn ddehongliad cyffredin ddigon o’r Atgyfodiad: Christ byw a dau angel.
O bob tu i’r Atgyfodiad, gwelir hanesion o’r Hen Destament. Mae pob un o’r rhain yn cyfeirio at yr Atgyfodiad, ac yn darganfod eu gwir arwyddocâd yn yr Atgyfodiad. Mae’r hanesion o’r Hen Destament yn estyn golau i, ac yn derbyn golau gan y Testament Newydd: un Testament sydd mewn gwirionedd.
Gan ddechrau ar y top, dyma Jona yn dianc rhag y pysgodyn mawr (Jona 1:17; 2:1-10). I'r dde Dafydd yn dianc, gyda chymorth Michal, rhag cynddaredd Saul (1 Samuel 19). Ar y gwaelod, Moses droednoeth, a’r berth ar dân ond heb ei difa (Exodus 3:1-12). Yna, Noa yn gollwng colomen i weld a oedd dyfroedd y dilyw wedi treio (Genesis 8:1-19). Hanfod y pedwar stori yw dianc rhag sefyllfa anodd, neu amgylchiadau bygythiol gan ddarganfod o’r herwydd gobaith, rhyddid a chyfle newydd. Gwahoddir ni gan y pedwar stori i ystyried pa bethau sydd yn peryglu a chaethiwo ein ffydd, a hefyd y posibiliadau a’r cyfleoedd sydd gennym i wasanaethu Duw a thystio i rym ei gariad byw.
Wedi syllu ar y pedwar ffenest ac ystyried y pedwar stori, rhaid dychwelyd i’r ffenest ganol. Nid cyffredin mor ffenest ganol hon wedi’r cyfan, ond llonydd, hyderus. Mae’r Crist yn gadarn, sicr ei gam, hyderus ei osgo. Nid oes amau’r bywyd newydd hwn - ei fywyd newydd ef yw gwarant ein bywyd newydd ni.
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
(OLlE)